Hosea 1
1Dyma’r neges roddodd yr ARGLWYDD i Hosea fab Beëri. Roedd yn proffwydo pan oedd Wseia, Jotham, Ahas a Heseceia yn frenhinoedd ar Jwda, a Jeroboam fab Jehoas, yn frenin ar Israel.
Notes for verse 12 entries
Text notes
Hosea 1:1 Wseia … Jehoas Wseia (781–740 CC), Jotham (740–736 CC), Ahas (736–716 CC), Heseceia (716–687 CC), a Jeroboam II (783–743 CC). View in passage
Cross-references
Hosea 1:1 – 2 Brenhinoedd 14:23–15:7; 15:32–16:20; 18:1–20:21; 2 Cronicl 26:1–27:8; 28:1–32:33
Gwraig a plant Hosea
2Pan ddechreuodd yr ARGLWYDD siarad drwy Hosea, dwedodd wrtho: “Dos, a priodi gwraig sy’n puteinio. Bydd hi’n puteinio ac yn cael plant siawns. Mae fel y wlad yma, sy’n puteinio o hyd drwy droi cefn arna i, yr ARGLWYDD.” 3Felly dyma Hosea yn priodi Gomer, merch Diblaim. Dyma hi’n cael ei hun yn feichiog, ac yn geni mab iddo. 4A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Hosea, “Galw fe’n Jesreel, achos yn fuan iawn dw i’n mynd i gosbi llinach frenhinol Jehw am y tywallt gwaed yn Jesreel. Dw i’n mynd i ddod â theyrnas Israel i ben. 5Bydda i’n dinistrio grym milwrol Israel yn Nyffryn Jesreel.”
Notes for verses 2–52 entries
Text notes
Hosea 1:4 Jesreel Dyna ble llofruddiodd Jehw Ahab, brenin Israel, a’r teulu brenhinol i gyd, a gwneud ei hun yn frenin (gw. 2 Brenhinoedd 9:21-28,30-37; 10:10). View in passage
Cross-references
Hosea 1:4 – 2 Kings 10:11
6Pan oedd Gomer yn disgwyl babi eto, dyma hi’n cael merch y tro yma. A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Hosea, “Galw hi’n Lo-rwhama (sef ‘dim trugaredd’). Fydda i’n dangos dim trugaredd at wlad Israel o hyn ymlaen. Maen nhw wedi fy mradychu i. 7Ond bydda i’n dangos trugaredd at wlad Jwda. Fi, yr ARGLWYDD eu Duw, fydd yn eu hachub nhw, nid arfau a grym milwrol a rhyfela.”
Notes for verses 6–71 entry
Text notes
Hosea 1:7 arfau … rhyfela Hebraeg, “bwâu, cleddyfau, brwydr, ceffylau a cherbydau”. View in passage
8Cyn gynted ag roedd Gomer wedi stopio bwydo Lo-rwhama ar y fron, roedd hi’n feichiog eto, a dyma hi’n cael mab arall. 9Dyma’r ARGLWYDD yn dweud, “Galw fe’n Lo-ammi (sef ‘dim fy mhobl’). Achos dych chi ddim yn bobl i mi, a dw i ddim yn Dduw i chi.”
Gobaith i Israel
10Ond yn y dyfodol, bydd poblogaeth Israel fel y tywod ar lan y môr – yn amhosib i’w cyfrif. Yn yr union le lle dwedwyd wrthyn nhw, “Dych chi ddim yn bobl i mi” byddan nhw’n cael eu galw yn “blant y Duw byw”! 11Bydd pobl Jwda a phobl Israel yn uno gyda’i gilydd. Byddan nhw’n dewis un arweinydd, ac yn codi eto o’r tir. Bydd hi’n ddiwrnod mawr i Jesreel!
Notes for verses 10–113 entries
Text notes
Hosea 1:11 Jesreel ystyr yr enw Hebraeg ydy “Duw yn hau”, sy’n awgrymu tyfiant a llwyddiant. View in passage
Cross-references
Hosea 1:10 – Genesis 22:17 ; Genesis 32:12
Hosea 1:10 – Romans 9:26