Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Daniel 12

Rhan pedwar: y meirw yn dod yn ôl yn fyw

1Bryd hynny bydd Michael yn codi –

yr arweinydd mawr sy’n gofalu am dy bobl.

Bydd amser caled – gwaeth na dim

mae’r wlad wedi’i brofi erioed o’r blaen.

Ond bydd dy bobl di yn dianc –

pawb sydd â’i henwau wedi’u hysgrifennu yn y llyfr.

2Bydd llawer o’r rhai sy’n gorwedd yn farw,

wedi’u claddu ym mhridd y ddaear, yn deffro –

rhai i fywyd tragwyddol

ac eraill i gywilydd bodolaeth ffiaidd.

3Ond bydd y rhai doeth yn disgleirio fel golau dydd.

Bydd y rhai sy’n arwain y werin bobl i fyw mewn perthynas iawn â Duw

yn disgleirio fel sêr am byth bythoedd.

Notes for verses 1–32 entries

Cross-references

4“Rhaid i ti, Daniel, gadw’r neges yma’n gyfrinachol a selio’r sgrôl nes bydd y diwedd wedi dod. Bydd llawer yn rhuthro yma ac acw yn ceisio deall beth sy’n digwydd.”

Y diwedd

5Yna dyma fi, Daniel, yn gweld dau arall yn sefyll yna – un bob ochr i’r afon. 6Dyma un ohonyn nhw’n dweud wrth y dyn oedd mewn gwisg o liain, oedd erbyn hyn yn sefyll uwchben yr afon, “Pryd mae’r pethau mawr yma’n mynd i ddigwydd?” 7A dyma’r dyn oedd mewn gwisg o liain ac yn sefyll uwchben yr afon, yn codi ei ddwy law i’r awyr ac yn tyngu ar lw i’r Un sy’n byw am byth: “Mae am gyfnod, dau gyfnod a hanner cyfnod. Wedyn pan fydd grym yr un sy’n sathru pobl gysegredig Duw wedi dod i ben bydd y diwedd wedi dod.”

Notes for verses 5–71 entry

Cross-references

8Rôn i wedi’i glywed, ond ddim yn deall. Felly dyma fi’n gofyn, “Syr, beth fydd yn digwydd yn y diwedd?” 9Atebodd, “Dos di, Daniel. Mae’r neges yma i’w gadw’n gyfrinachol ac wedi’i selio nes bydd y diwedd wedi dod. 10Bydd llawer o bobl yn cael eu puro, eu glanhau a’u coethi drwy’r cwbl. Ond bydd pobl ddrwg yn dal ati i wneud drwg. Fyddan nhw ddim yn deall. Dim ond y rhai doeth fydd yn deall beth sy’n digwydd. 11O’r amser pan fydd yr aberthu dyddiol yn cael ei stopio a’r eilun ffiaidd sy’n dinistrio yn cael ei godi yn ei le, mae mil dau gant naw deg o ddyddiau. 12Mae’r rhai sy’n disgwyl yn ffyddlon nes bydd mil tri chant tri deg pump o ddyddiau wedi mynd heibio wedi’u bendithio’n fawr.

Notes for verses 8–121 entry

Cross-references

  • Daniel 12:11 – Daniel 9:27 ; Daniel 11:31 ; Matthew 24:15 ; Mark 13:14 (gw. hefyd 1 Macabeaid 1:54)

13“Felly dos di yn dy flaen. Gelli fod yn dawel dy feddwl. Pan ddaw’r diwedd, byddi di’n codi i dderbyn dy wobr.”