Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Amos 6

Dinistrio Israel

1Gwae chi sydd mor gyfforddus yn Seion,

ac yn teimlo mor saff ar fryniau Samaria!

Chi bobl bwysig y genedl sbesial ma –

ie, chi mae pobl Israel yn troi atyn nhw am arweiniad.

2Dych chi’n dweud wrthyn nhw,

“Ewch draw i ddinas Calne, i weld sut mae pethau yno!

Ewch yn eich blaen wedyn i Chamath fawr,

ac i lawr i Gath y Philistiaid.

Ydy pethau’n well arnyn nhw nag ar y ddwy wlad yma?

Oes ganddyn nhw fwy o dir na chi?”

3Dych chi’n gwrthod derbyn fod dydd drwg yn dod.

Dych chi’n gofyn am gyfnod o drais!

Notes for verses 1–31 entry

Text notes

  • Amos 6:2 Calne … Chamath … Gath Dinasoedd wedi’u concro gan yr Asyriaid: Calne yn 738 CC, Chamath yn 720, a Gath yn 711. View in passage

4Druan ohonoch chi, sy’n diogi ar eich soffas ifori moethus.

Yn gorweddian ar glustogau cyfforddus,

ac yn mwynhau gwledda ar gig oen

a’r cig eidion gorau.

5Yn mwmian canu i gyfeiliant y nabl –

a meddwl eich bod chi’n gerddorion gwych fel y Brenin Dafydd!

6Dych chi’n yfed gwin wrth y galwyni

ac yn pampro eich cyrff gyda’r olew gorau!

Ond dych chi’n poeni dim fod dinistr

yn dod ar bobl Joseff!

7Felly, chi fydd y rhai cyntaf i gael eich caethgludo,

a hynny’n fuan iawn!

Bydd y gwledda a’r gorweddian yn dod i ben!

8Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn tyngu iddo’i hun:

“Dw i’n casáu balchder gwlad Jacob,

ac yn ffieiddio ei phlastai.

Bydda i’n cyhoeddi y bydd dinas Samaria a’i phobl

yn cael eu rhoi yn llaw’r gelyn.”

–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn, y Duw hollbwerus.

9Os bydd deg o bobl yn dal yn fyw mewn tŷ, byddan nhw’n marw. 10Yna bydd perthynas yn dod i gasglu’r cyrff o’r tŷ – gyda’r bwriad o’u llosgi. A bydd yn galw ar rywun sy’n cuddio yng nghefn y tŷ, “Oes unrhyw un arall yn fyw ond ti?” ac yn cael yr ateb, “Na, neb.” Yna bydd yn dweud, “Ust! paid hyd yn oed â dweud enw’r ARGLWYDD ”.

11Felly, mae’r ARGLWYDD yn rhoi’r gorchymyn:

“Mae’r tai mawr crand i gael eu chwalu’n ulw,

a’r tai cyffredin hefyd, yn ddarnau mân.”

12Ydy ceffylau’n gallu carlamu dros greigiau mawr?

Ydy’n bosib ei aredig hefo ychen?

Ac eto dych chi wedi troi cyfiawnder yn wenwyn marwol

ac wedi gwneud yr hyn sy’n iawn yn beth chwerw.

13Dych chi mor falch eich bod chi wedi concro tref Lo-defâr,

a meddech chi wedyn, “Dŷn ni wedi dal Carnaïm!

Roedden ni’n rhy gryf iddyn nhw!”

14Ond gwylia di, wlad Israel,

Notes for verses 13–142 entries

Text notes

  • Amos 6:13 Lo-defâr Tref yn Gilead, yr ochr draw i afon Iorddonen. Ond mae yma eironi, gan fod yr enw’n swnio’n debyg i’r gair Hebraeg am “ddim byd”. View in passage

  • Amos 6:13 Carnaïm Tref fach arall oedd yr ochr draw i afon Iorddonen. Ystyr yr enw ydy “cyrn”, sef arwydd o gryfder. View in passage

–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn, y Duw hollbwerus.

Dw i’n codi cenedl i ymladd yn dy erbyn di.

Bydd yn dy ormesu di o Fwlch Chamath yn y gogledd

i Wadi’r Araba lawr yn y de!

Notes for verse 141 entry

Text notes

  • Amos 6:14 o Fwlch Chamath … i Wadi’r Araba Ffiniau Israel yn y gogledd a’r de. View in passage