Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Amos 5

Galw pobl i newid eu ffyrdd

1Gwrandwch arna i’n galaru! Dw i’n canu cân angladdol er cof amdanat ti, wlad Israel:

2“Mae Israel fel merch ifanc

wedi’i tharo i lawr,

mae hi’n gorwedd ar bridd ei gwlad

a does neb i’w chodi ar ei thraed.”

3Achos dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud am wlad Israel:

“Dim ond cant fydd ar ôl yn y dre

anfonodd fil allan i’r fyddin,

a dim ond deg fydd ar ôl yn y dre

anfonodd gant i’r fyddin.”

4Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthot ti, wlad Israel:

“Trowch yn ôl ata i, a chewch fyw!

5Peidiwch troi i gyfeiriad y cysegr yn Bethel,

mynd i ymweld â chysegr Gilgal

na chroesi’r ffin a mynd i lawr i Beersheba.

Bydd pobl Gilgal yn cael eu caethgludo,

a fydd Bethel ddim mwy na rhith!”

6Trowch yn ôl at yr ARGLWYDD, a chewch fyw!

Os na wnewch chi bydd e’n rhuthro drwy wlad Joseff fel tân

ac yn llosgi Bethel yn ulw;

a fydd neb yn gallu diffodd y tân.

7Druan ohonoch chi, sy’n troi cyfiawnder yn beth chwerw,

ac yn gwrthod gwneud beth sy’n iawn yn y tir!

8Duw ydy’r un wnaeth y sêr –

Pleiades ac Orïon.

Fe sy’n troi’r tywyllwch yn fore,

ac yn troi’r dydd yn nos dywyll.

Mae e’n cymryd dŵr o’r môr

ac yn ei arllwys yn gawodydd ar y tir

–yr ARGLWYDD ydy ei enw e!

9Mae’n bwrw dinistr ar y mannau mwyaf diogel,

nes bod caerau amddiffynnol yn troi’n adfeilion!

Notes for verses 8–91 entry

Cross-references

  • Amos 5:8 – Job 9:9 ; Job 38:31

10Dych chi’n casáu’r un sy’n herio anghyfiawnder yn y llys;

ac yn ffieiddio unrhyw un sy’n dweud y gwir.

11Felly, am i chi drethu pobl dlawd yn drwm

a dwyn yr ŷd oddi arnyn nhw:

Er eich bod chi wedi adeiladu’ch tai crand o gerrig nadd,

gewch chi ddim byw ynddyn nhw.

Er eich bod chi wedi plannu gwinllannoedd hyfryd,

gewch chi byth yfed y gwin ohonyn nhw.

12Dych chi wedi troseddu yn fy erbyn i mor aml,

ac wedi pechu’n ddiddiwedd

drwy gam-drin pobl onest,

a derbyn breib i wrthod cyfiawnder

i bobl dlawd pan maen nhw yn y llys!

13Byddai unrhyw un call yn cadw’n dawel,

achos mae’n amser drwg.

14Ewch ati i wneud da eto yn lle gwneud drwg,

a chewch fyw!

Wedyn bydd yr ARGLWYDD, y Duw hollbwerus,

gyda chi go iawn

(fel dych chi’n meddwl ei fod e nawr!)

15Casewch ddrwg a charu’r da, a gwneud yn siŵr fod tegwch yn y llysoedd. Wedyn, falle y bydd yr ARGLWYDD, y Duw hollbwerus, yn garedig at y llond dwrn o bobl sydd ar ôl yng ngwlad Joseff. 16Ond o achos yr holl bethau drwg dych chi’n eu gwneud, dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud – fy Meistr i, y Duw hollbwerus:

“Bydd wylo uchel ym mhob sgwâr,

a sŵn pobl yn gweiddi ar bob stryd ‘O, na! na!’

Bydd y rhai tlawd sy’n gweithio ar y tir yn cael eu galw i alaru,

a bydd galarwyr proffesiynol yno’n udo llafarganu.

17Bydd pobl yn wylo’n uchel,

hyd yn oed yn y gwinllannoedd,

achos dw i’n dod i’ch cosbi chi.”

–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.

18Druan ohonoch chi! Chi sy’n edrych ymlaen

at y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn dod!

Sut allwch chi edrych ymlaen at y diwrnod hwnnw?

Diwrnod tywyll fydd e, heb ddim golau o gwbl!

19Bydd fel petai rhywun yn dianc oddi wrth lew

ac yn sydyn mae arth yn dod i’w gyfarfod.

Mae’n llwyddo i gyrraedd y tŷ’n ddiogel,

ond yna’n pwyso yn erbyn y wal ac yn cael ei frathu gan neidr!

20Felly bydd hi ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn dod –

diwrnod tywyll fydd e, dim un golau!

Ie, tywyllwch dudew heb lygedyn o olau!

21“Dw i’n casáu eich gwyliau crefyddol chi,

ac yn eu diystyru nhw.

Dydy’ch addoliad chi’n rhoi dim pleser i mi.

22Er i chi ddod i gyflwyno aberthau i’w llosgi i mi,

ac offrymau bwyd, wna i ddim eu derbyn nhw.

Gallwch offrymu eich anifeiliaid gorau i mi,

ond fydda i’n cymryd dim sylw o gwbl!

23Stopiwch ddod yma i forio canu’ch emynau;

does gen i ddim eisiau clywed sŵn eich nablau.

24Beth dw i eisiau ydy gweld cyfiawnder fel dŵr yn gorlifo,

a thegwch fel ffrwd nant sydd byth yn sychu.

Notes for verses 21–241 entry

Cross-references

25“Wnaethoch chi gyflwyno aberthau ac offrymau i mi yn ystod y pedwar deg mlynedd yn yr anialwch, bobl Israel? 26A nawr mae’n well gynnoch chi gario eich ‘brenin’ Saccwth, a’ch delw o Caiwan – sef duwiau’r sêr dych chi wedi’u llunio i chi’ch hunain! 27Felly, bydda i’n eich gyrru chi’n gaethion i wlad sydd tu draw i Damascus.”

–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn, sef yr un sy’n cael ei alw y Duw hollbwerus.