Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Y Salmau 95

1Dewch, canwn yn llawen i'r ARGLWYDD,

rhown floedd o orfoledd i graig ein hiachawdwriaeth.

2Down i'w bresenoldeb â diolch,

gorfoleddwn ynddo â chaneuon mawl.

3Oherwydd Duw mawr yw'r ARGLWYDD,

a brenin mawr goruwch yr holl dduwiau.

4Yn ei law ef y mae dyfnderau'r ddaear,

ac eiddo ef yw uchelderau'r mynyddoedd.

5Eiddo ef yw'r môr, ac ef a'i gwnaeth;

ei ddwylo ef a greodd y sychdir.

6Dewch, addolwn ac ymgrymwn,

plygwn ein gliniau gerbron yr ARGLWYDD a'n gwnaeth.

7Oherwydd ef yw ein Duw,

a ninnau'n bobl iddo a defaid ei borfa;

heddiw cewch wybod ei rym,

os gwrandewch ar ei lais.

Notes for verses 6–71 entry

Text notes

  • Psalms 95:7 Felly un llawysgrif a Fersiynau. TM, bobl ei borfa, a defaid. View in passage

8Peidiwch â chaledu'ch calonnau, fel yn Meriba,

fel ar ddiwrnod Massa yn yr anialwch,

9pan fu i'ch hynafiaid fy herio

a'm profi, er iddynt weld fy ngwaith.

10Am ddeugain mlynedd y ffieiddiais y genhedlaeth honno,

a dweud, “Pobl â'u calonnau'n cyfeiliorni ydynt,

ac nid ydynt yn gwybod fy ffyrdd.”

11Felly tyngais yn fy nig

na chaent ddyfod i'm gorffwysfa.