Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Y Salmau 64

I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.

1Clyw fy llais, O Dduw, wrth imi gwyno;

achub fy mywyd rhag arswyd y gelyn,

2cuddia fi rhag cynllwyn rhai drygionus

a rhag dichell gwneuthurwyr drygioni—

3rhai sy'n hogi eu tafod fel cleddyf,

ac yn anelu eu geiriau chwerw fel saethau,

4i saethu'r dieuog o'r dirgel,

i saethu'n sydyn a di-ofn.

5Y maent yn glynu wrth eu bwriad drwg,

ac yn sôn am osod maglau o'r golwg,

a dweud, “Pwy all ein gweld?”

6Y maent yn dyfeisio drygioni,

ac yn cuddio'u dyfeisiadau;

y mae'r galon a'r meddwl dynol yn ddwfn!

Notes for verses 1–61 entry

Text notes

7Ond bydd Duw'n eu saethu â'i saeth;

yn sydyn y daw eu cwymp.

8Bydd yn eu dymchwel oherwydd eu tafod,

a bydd pawb sy'n eu gweld yn ysgwyd eu pennau.

9Daw ofn ar bawb,

a byddant yn adrodd am waith Duw,

ac yn deall yr hyn a wnaeth.

Notes for verses 7–91 entry

Text notes

  • Psalms 64:8 Tebygol. Hebraeg, A gwnaethant hwy iddo ddymchwel. View in passage

10Bydded i'r cyfiawn lawenhau yn yr ARGLWYDD,

a llochesu ynddo,

a bydded i'r holl rai uniawn orfoleddu.