Y Salmau 61
I'r Cyfarwyddwr: ar offerynnau llinynnol. I Ddafydd.
1Clyw fy nghri, O Dduw,
a gwrando ar fy ngweddi;
2o eithaf y ddaear yr wyf yn galw arnat,
pan yw fy nghalon ar suddo.
Arwain fi at graig sy'n uwch na mi;
3oherwydd buost ti'n gysgod imi,
yn dŵr cadarn rhag y gelyn.
4Gad imi aros yn dy babell am byth,
a llochesu dan gysgod dy adenydd.
Sela
5Oherwydd clywaist ti, O Dduw, fy addunedau,
a gwnaethost ddymuniad y rhai sy'n ofni dy enw.
Notes for verse 51 entry
Text notes
Psalms 61:5 Tebygol. Hebraeg, etifeddiaeth. View in passage
6Estyn ddyddiau lawer at oes y brenin,
a bydded ei flynyddoedd fel cenedlaethau;
7bydded wedi ei orseddu gerbron Duw am byth;
bydded cariad a gwirionedd yn gwylio drosto.
Notes for verses 6–71 entry
Text notes
Psalms 61:7 Felly llawysgrifau a Fersiynau. TM, paratoa gariad a gwirionedd iddynt wylio. View in passage
8Felly y canmolaf dy enw byth,
a thalu fy addunedau ddydd ar ôl dydd.