Y Salmau 58
I'r Cyfarwyddwr: ar Na Ddinistria. I Ddafydd. Michtam.
1Chwi gedyrn, a ydych mewn difri'n dedfrydu'n gyfiawn?
A ydych yn barnu pobl yn deg?
2Na! Yr ydych â'ch calonnau'n dyfeisio drygioni,
ac â'ch dwylo'n gwasgaru trais dros y ddaear.
Notes for verses 1–21 entry
Text notes
Psalms 58:1 Neu, Chwi dduwiau. View in passage
3Y mae'r drygionus yn wrthryfelgar o'r groth,
a'r rhai sy'n llefaru celwydd yn cyfeiliorni o'r bru.
4Y mae eu gwenwyn fel gwenwyn sarff,
fel asb fyddar sy'n cau ei chlustiau,
5a heb wrando ar sain y swynwr
sy'n taenu ei hudoliaeth ryfedd.
6O Dduw, dryllia'r dannedd yn eu genau,
diwreiddia gilddannedd y llewod, O ARGLWYDD.
7Bydded iddynt ddiflannu fel dŵr a mynd ymaith,
a chrino fel gwellt a sethrir;
8byddant fel erthyl sy'n diflannu,
ac fel marw-anedig na wêl olau dydd.
9Cyn iddynt wybod bydd yn eu diwreiddio;
yn ei ddig bydd yn eu sgubo ymaith fel chwyn.
Notes for verses 6–92 entries
Text notes
Psalms 58:7 Tebygol. Hebraeg yn aneglur. View in passage
Psalms 58:9 Tebygol. Hebraeg yn aneglur. View in passage
10Bydd y cyfiawn yn llawenhau am iddo weld dialedd,
ac yn golchi ei draed yng ngwaed y drygionus.
11A dywed pobl, “Yn ddios y mae gwobr i'r cyfiawn;
oes, y mae Duw sy'n gwneud barn ar y ddaear.”