Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Y Salmau 43

1Cymer fy mhlaid, O Dduw,

ac amddiffyn fy achos

rhag pobl annheyrngar;

gwared fi rhag dynion twyllodrus ac anghyfiawn,

2oherwydd ti, O Dduw, yw fy amddiffyn.

Pam y gwrthodaist fi?

Pam y rhodiaf mewn galar,

wedi fy ngorthrymu gan y gelyn?

3Anfon dy oleuni a'th wirionedd,

bydded iddynt fy arwain,

bydded iddynt fy nwyn i'th fynydd sanctaidd

ac i'th drigfan.

4Yna dof at allor Duw,

at Dduw fy llawenydd;

llawenychaf a'th foliannu â'r delyn,

O Dduw, fy Nuw.

5Mor ddarostyngedig wyt, fy enaid,

ac mor gythryblus o'm mewn!

Disgwyliaf wrth Dduw; oherwydd eto moliannaf ef,

fy Ngwaredydd a'm Duw.

Notes for verses 1–51 entry

Text notes

  • Psalms 43:4 Tebygol. Hebraeg, at Dduw, hyfrydwch fy llawenydd. View in passage