Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Y Salmau 28

I Ddafydd.

1Arnat ti, ARGLWYDD, y gwaeddaf;

fy nghraig, paid â thewi tuag ataf—

rhag, os byddi'n ddistaw,

imi fod fel y rhai sy'n disgyn i'r pwll.

2Gwrando ar lef fy ngweddi

pan waeddaf arnat am gymorth,

pan godaf fy nwylo

tua'th gysegr sanctaidd.

3Paid â'm cipio ymaith gyda'r drygionus

a chyda gwneuthurwyr drygioni,

rhai sy'n siarad yn deg â'u cymdogion

ond sydd â chynnen yn eu calon.

4Tâl iddynt am eu gweithredoedd

ac am ddrygioni eu gwaith;

tâl iddynt am yr hyn a wnaeth eu dwylo,

rho eu haeddiant iddynt.

5Am nad ydynt yn ystyried gweithredoedd yr ARGLWYDD

na gwaith ei ddwylo ef,

bydded iddo'u dinistrio a pheidio â'u hailadeiladu.

6Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD

am iddo wrando ar lef fy ngweddi.

7Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm tarian;

ynddo yr ymddiried fy nghalon;

yn sicr caf gymorth, a llawenycha fy nghalon,

a rhof foliant iddo ar gân.

8Y mae'r ARGLWYDD yn nerth i'w bobl

ac yn gaer gwaredigaeth i'w eneiniog.

Notes for verses 6–81 entry

Text notes

  • Psalms 28:8 Felly rhai llawysgrifau a Fersiynau. Hebraeg, iddynt. View in passage

9Gwareda dy bobl, a bendithia dy etifeddiaeth;

bugeilia hwy a'u cario am byth.