Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Y Salmau 27

I Ddafydd.

1Yr ARGLWYDD yw fy ngoleuni a'm gwaredigaeth,

rhag pwy yr ofnaf?

Yr ARGLWYDD yw cadernid fy mywyd,

rhag pwy y dychrynaf?

2Pan fydd rhai drwg yn cau amdanaf

i'm hysu i'r byw,

hwy, fy ngwrthwynebwyr a'm gelynion,

fydd yn baglu ac yn syrthio.

3Pe bai byddin yn gwersyllu i'm herbyn,

nid ofnai fy nghalon;

pe dôi rhyfel ar fy ngwarthaf,

eto, fe fyddwn yn hyderus.

4Un peth a ofynnais gan yr ARGLWYDD,

dyma'r wyf yn ei geisio:

cael byw yn nhŷ'r ARGLWYDD

holl ddyddiau fy mywyd,

i edrych ar hawddgarwch yr ARGLWYDD

ac i ymofyn yn ei deml.

5Oherwydd fe'm ceidw yn ei gysgod yn nydd adfyd,

a'm cuddio i mewn yn ei babell, a'm codi ar graig.

6Ac yn awr, fe gyfyd fy mhen

goruwch fy ngelynion o'm hamgylch;

ac offrymaf finnau yn ei deml

aberthau llawn gorfoledd;

canaf, canmolaf yr ARGLWYDD.

7Gwrando arnaf, ARGLWYDD, pan lefaf;

bydd drugarog wrthyf, ac ateb fi.

8Dywedodd fy nghalon amdanat,

“Ceisia ei wyneb ”;

am hynny ceisiaf dy wyneb, O ARGLWYDD.

9Paid â chuddio dy wyneb oddi wrthyf,

na throi ymaith dy was mewn dicter,

oherwydd buost yn gymorth i mi;

paid â'm gwrthod na'm gadael,

O Dduw, fy Ngwaredwr.

10Pe bai fy nhad a'm mam yn cefnu arnaf,

byddai'r ARGLWYDD yn fy nerbyn.

11Dysg i mi dy ffordd, O ARGLWYDD,

arwain fi ar hyd llwybr union,

oherwydd fy ngwrthwynebwyr.

12Paid â'm gadael i fympwy fy ngelynion,

oherwydd cododd yn f'erbyn dystion celwyddog

sy'n bygwth trais.

13Yr wyf yn sicr y caf weld daioni'r ARGLWYDD

yn nhir y rhai byw.

Notes for verses 7–132 entries

Text notes

  • Psalms 27:8 Cymh. Syrieg. Hebraeg, Ceisiwch fy wyneb. View in passage

  • Psalms 27:13 Felly Groeg a rhai llawysgrifau. TM, Pe na chredaswn. View in passage

14Disgwyl wrth yr ARGLWYDD,

bydd gryf a gwrol dy galon

a disgwyl wrth yr ARGLWYDD.