information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Numeri 24

1Pan welodd Balaam fod yr ARGLWYDD yn dymuno bendithio Israel, nid aeth i arfer dewiniaeth, fel cynt; yn hytrach, trodd ei wyneb tua'r diffeithwch. 2Cododd ei olwg a gweld yr Israeliaid yn gwersyllu yn ôl eu llwythau. Yna daeth ysbryd Duw arno, 3a llefarodd ei oracl a dweud:

“Gair Balaam fab Beor,

gair y gŵr yr agorir ei lygaid

4ac sy'n clywed geiriau Duw,

yn cael gweledigaeth gan yr Hollalluog,

ac yn syrthio i lawr, a'i lygaid wedi eu hagor:

5Mor brydferth yw dy bebyll, O Jacob,

a'th wersylloedd, O Israel!

6Y maent yn ymestyn fel palmwydd,

fel gerddi ar lan afon,

fel aloewydd a blannodd yr ARGLWYDD,

fel cedrwydd wrth ymyl dyfroedd.

7Tywelltir dŵr o'i ystenau,

a bydd digon o ddŵr i'w had.

Bydd ei frenin yn uwch nag Agag,

a dyrchefir ei frenhiniaeth.

8Daeth Duw ag ef allan o'r Aifft,

ac yr oedd ei nerth fel nerth ych gwyllt;

bydd yn traflyncu'r cenhedloedd sy'n elynion iddo,

gan ddryllio eu hesgyrn yn ddarnau,

a'u gwanu â'i saethau.

9Pan gryma, fe orwedd fel llew,

neu lewes; pwy a'i deffry?

Bydded bendith ar bawb a'th fendithia,

a melltith ar bawb a'th felltithia.”

10Yna digiodd Balac wrth Balaam; curodd ei ddwylo, a dywedodd wrtho, “Gelwais amdanat i felltithio fy ngelynion, ond yr wyt ti wedi eu bendithio'r teirgwaith hyn. 11Felly ffo yn awr i'th le dy hun; addewais dy anrhydeddu, ond fe gadwodd yr ARGLWYDD yr anrhydedd oddi wrthyt.” 12Dywedodd Balaam wrth Balac, “Oni ddywedais wrth y negeswyr a anfonaist ataf, 13‘Pe rhoddai Balac imi lond ei dŷ o arian ac aur, ni allwn fynd yn groes i air yr ARGLWYDD a gwneud na da na drwg o'm hewyllys fy hun; rhaid imi lefaru'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD ’? 14Yn awr, fe af at fy mhobl fy hun; tyrd, ac fe ddywedaf wrthyt beth a wna'r bobl hyn i'th bobl di yn y dyfodol.”

Pedwaredd Neges Balaam

15Yna llefarodd ei oracl a dweud:

“Gair Balaam fab Beor,

gair y gŵr yr agorir ei lygaid

16ac sy'n clywed geiriau Duw,

yn gwybod meddwl y Goruchaf,

yn cael gweledigaeth gan yr Hollalluog,

ac yn syrthio i lawr, a'i lygaid wedi eu hagor:

17Fe'i gwelaf ef, ond nid yn awr;

edrychaf arno, ond nid yw'n agos.

Daw seren allan o Jacob,

a chyfyd teyrnwialen o Israel;

fe ddryllia dalcen Moab,

a difa holl feibion Seth.

18Bydd Edom yn cael ei meddiannu,

bydd Seir yn feddiant i'w gelynion,

ond bydd Israel yn gweithredu'n rymus.

19Daw llywodraethwr allan o Jacob

a dinistrio'r rhai a adawyd yn y dinasoedd.”

Negesau Olaf Balaam

20Yna edrychodd ar Amalec, a llefarodd ei oracl a dweud:

“Amalec oedd y blaenaf ymhlith y cenhedloedd,

ond caiff yntau, yn y diwedd, ei ddinistrio.”

21Yna edrychodd ar y Cenead, a llefarodd ei oracl a dweud:

“Y mae dy drigfan yn gadarn,

a'th nyth yn ddiogel mewn craig;

22eto bydd Cain yn cael ei anrheithio.

Am ba hyd y bydd Assur yn dy gaethiwo?”

23Llefarodd ei oracl a dweud:

“Och! Pwy fydd byw pan wna Duw hyn?

24Daw llongau o gyffiniau Chittim,

gan orthrymu Assur ac Eber;

cânt hwythau hefyd eu dinistrio.”

25Yna cododd Balaam a dychwelodd adref, ac aeth Balac hefyd ymaith.