information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Numeri 23

Neges Gyntaf Balaam

1Dywedodd Balaam wrth Balac, “Adeilada imi yma saith allor, a darpara imi saith bustach a saith hwrdd.” 2Gwnaeth Balac fel yr oedd Balaam wedi gorchymyn, ac offrymodd Balac a Balaam fustach a hwrdd ar bob allor. 3Yna dywedodd Balaam wrth Balac, “Aros di wrth dy boethoffrwm, ac af finnau draw oddi yma; hwyrach y daw'r ARGLWYDD i gyfarfod â mi, ac fe ddywedaf wrthyt beth bynnag a ddatguddia imi.” Felly aeth ymaith i fryn uchel. 4Daeth Duw i gyfarfod â Balaam, a dywedodd Balaam wrtho, “Yr wyf wedi paratoi'r saith allor ac offrymu bustach a hwrdd ar bob un.” 5Rhoddodd yr ARGLWYDD air yng ngenau Balaam, a dweud, “Dos yn ôl at Balac, a llefara hyn wrtho.” 6Pan ddychwelodd yntau, gwelodd Balac yn sefyll wrth ei boethoffrwm, a holl dywysogion Moab gydag ef. 7Yna llefarodd Balaam ei oracl a dweud,

“Daeth Balac â mi o Syria,

brenin Moab o fynyddoedd y dwyrain.

‘Tyrd,’ meddai, ‘rho felltith ar Jacob imi;

tyrd, cyhoedda wae ar Israel.’

8Sut y gallaf felltithio neb heb i Dduw ei felltithio,

neu gyhoeddi gwae ar neb heb i'r ARGLWYDD ei gyhoeddi?

9Fe'u gwelaf o ben y creigiau,

ac edrychaf arnynt o'r bryniau—

pobl yn byw mewn unigedd,

heb ystyried eu bod ymysg y cenhedloedd.

10Pwy a all gyfrif Jacob mwy na llwch

neu rifo chwarter Israel?

Boed i minnau farw fel y bydd marw'r cyfiawn,

a boed fy niwedd i fel eu diwedd hwy.”

Notes for verses 7–101 entry

Text notes

11Dywedodd Balac wrth Balaam, “Beth a wnaethost imi? Gelwais amdanat i felltithio fy ngelynion, ond y cyfan a wnaethost oedd eu bendithio.” 12Atebodd yntau, “Onid oes raid imi lefaru'r hyn y mae'r ARGLWYDD yn ei osod yn fy ngenau?”

Ail Neges Balaam

13Dywedodd Balac wrtho, “Tyrd gyda mi i le arall er mwyn iti eu gweld oddi yno; ni weli di mo'r cyfan, dim ond un cwr ohonynt, ond oddi yno gelli eu melltithio imi.” 14Felly cymerodd ef i faes Soffim ar ben Pisga, ac adeiladodd saith allor ac offrymodd fustach a hwrdd ar bob un. 15Yna dywedodd Balaam wrth Balac, “Aros di yma wrth dy boethoffrwm, ac af finnau draw i gyfarfod â'r ARGLWYDD.” 16Daeth yr ARGLWYDD i gyfarfod â Balaam, a rhoi gair yn ei enau, a dweud, “Dos yn ôl at Balac, a llefara hyn wrtho.” 17Pan ddaeth ef ato, gwelodd Balac yn sefyll wrth ei boethoffrwm, a thywysogion Moab gydag ef. Gofynnodd Balac iddo, “Beth a ddywedodd yr ARGLWYDD?” 18Yna llefarodd Balaam ei oracl a dweud:

“Cod, Balac, a chlyw:

gwrando arnaf, fab Sippor;

19nid yw Duw fel meidrolyn yn dweud celwydd,

neu fod meidrol yn edifarhau.

Oni wna yr hyn a addawodd,

a chyflawni'r hyn a ddywedodd?

20Derbyniais orchymyn i fendithio,

a phan fo ef yn bendithio, ni allaf ei atal.

21Ni welodd ddrygioni yn Jacob,

ac ni chanfu drosedd yn Israel.

Y mae'r ARGLWYDD eu Duw gyda hwy,

a bloedd y brenin yn eu plith.

22Daeth Duw â hwy allan o'r Aifft,

ac yr oedd eu nerth fel nerth ych gwyllt.

23Nid oes swyn yn erbyn Jacob,

na dewiniaeth yn erbyn Israel;

yn awr fe ddywedir am Jacob ac Israel,

‘Gwaith Duw yw hyn!’

24Dyma bobl sy'n codi fel llewes,

ac yn ymsythu fel llew;

nid yw'n gorwedd nes bwyta'r ysglyfaeth

ac yfed o waed yr hyn a larpiodd.”

25Dywedodd Balac wrth Balaam, “Paid â'u melltithio na'u bendithio mwyach.” 26Ond atebodd Balaam ef, “Oni ddywedais wrthyt fod yn rhaid imi wneud y cyfan a ddywed yr ARGLWYDD?”

Trydedd Neges Balaam

27Dywedodd Balac wrth Balaam, “Tyrd, fe af â thi i le arall; efallai y bydd Duw yn fodlon iti eu melltithio imi oddi yno.” 28Felly cymerodd Balac ef i ben Peor, sy'n edrych i lawr dros y diffeithwch, 29a dywedodd Balaam wrtho, “Adeilada imi yma saith allor, a darpara imi saith bustach a saith hwrdd.” 30Gwnaeth Balac fel yr oedd Balaam wedi gorchymyn iddo, ac offrymodd fustach a hwrdd ar bob allor.

Notes for verses 27–301 entry

Text notes