Nahum 2
Cwymp Ninefe
1Daeth dinistrydd i fyny yn dy erbyn;
diogela'r amddiffynfa, gwylia'r ffordd,
rhwyma dy wregys, a chasgla dy nerth ynghyd.
2Y mae'r ARGLWYDD yn adfer gogoniant Jacob,
a gogoniant Israel yr un modd,
er i'r anrheithwyr eu difetha
a dinoethi eu canghennau.
3Y mae tarian ei ryfelwyr yn goch,
a'r milwyr mewn ysgarlad,
a'i gerbydau yn eu rhengoedd
yn fflachio fel tân,
a'r gwŷr meirch yn prancio.
4Rhuthra'r cerbydau trwy'r strydoedd,
a gweu trwy'i gilydd yn y mannau agored;
fflachiant fel ffaglau,
gwibiant fel mellt.
5Gelwir y glewion i'r frwydr,
baglant hwythau wrth ddod;
brysiant at y mur,
a pharatoir yr amddiffyn.
6Agorir llifddorau'r afonydd,
ac y mae'r plas mewn dychryn;
7dygir y frenhines ymaith i gaethglud,
a'i morynion yn galaru,
yn cwyno fel colomennod
ac yn curo dwyfron.
8Y mae Ninefe fel llyn
a'i ddyfroedd yn diflannu.
“Aros! Aros!” meddant, ond nid yw neb yn troi'n ôl.
9Ysbeiliwch yr arian! Ysbeiliwch yr aur!
Nid oes terfyn ar y trysor,
nac ar y cyfoeth o bethau dymunol.
10Wedi ei hysbeilio, ei hanrheithio a'i dinoethi,
pob calon yn toddi, pob glin yn gwegian,
y lwynau'n crynu,
ac wyneb pawb yn gwelwi!
Notes for verses 3–102 entries
Text notes
Nahum 2:3 Felly Groeg a Syrieg. Hebraeg, pinwydd. View in passage
Nahum 2:7 Hebraeg yn ansicr. View in passage
11Ple mae ffau'r llew ac ogof y llewod ifainc,
cynefin y llew a'r llewes,
lle triga'r cenawon heb eu tarfu?
12Darniodd y llew ddigon i'w genawon,
a lladd ar gyfer ei lewesau;
llanwodd ei ogofeydd ag ysglyfaeth,
a'i loches â'i raib.
13“Wele fi yn dy erbyn,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.
“Llosgaf dy ffau mewn mwg,
ac ysa'r cleddyf dy genawon;
torraf ymaith dy ysbail o'r tir,
ac ni chlywir mwyach sôn am dy weithredoedd.”
Notes for verses 11–132 entries
Text notes
Nahum 2:11 Hebraeg, a phorfa. View in passage
Nahum 2:13 Tebygol. Hebraeg, ei cherbyd. View in passage