information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Joel 3

Barn Duw ar y Cenhedloedd

1“Yn y dyddiau hynny ac ar yr amser hwnnw,

pan adferaf lwyddiant Jwda a Jerwsalem,

2fe gasglaf yr holl genhedloedd

a'u dwyn i ddyffryn Jehosaffat,

a mynd i farn â hwy yno

ynglŷn â'm pobl a'm hetifeddiaeth, Israel,

am iddynt eu gwasgaru ymysg y cenhedloedd

a rhannu fy nhir,

3a bwrw coelbren am fy mhobl,

a chynnig bachgen am butain,

a gwerthu geneth am win a'i yfed.

Notes for verses 1–32 entries

Text notes

4“Beth ydych chwi i mi, Tyrus a Sidon, a holl ranbarthau Philistia? Ai talu'n ôl i mi yr ydych? Os talu'n ôl i mi yr ydych, fe ddychwelaf y tâl ar eich pen chwi eich hunain yn chwim a buan. 5Yr ydych wedi cymryd f'arian a'm haur, ac wedi dwyn fy nhrysorau gwerthfawr i'ch temlau. 6Yr ydych wedi gwerthu pobl Jwda a Jerwsalem i'r Groegiaid er mwyn eu symud ymhell o'u goror. 7Ond yn awr fe'u galwaf o'r mannau lle'u gwerthwyd, a dychwelaf eich tâl ar eich pen chwi eich hunain. 8Gwerthaf eich bechgyn a'ch merched i bobl Jwda, a byddant hwythau'n eu gwerthu i'r Sabeaid, cenedl bell.” Yr ARGLWYDD a lefarodd.

9“Cyhoeddwch hyn ymysg y cenhedloedd:

‘Ymgysegrwch i ryfel;

galwch y gwŷr cryfion;

doed y milwyr ynghyd i ymosod.

10Curwch eich ceibiau'n gleddyfau

a'ch crymanau'n waywffyn;

dyweded y gwan, “Rwy'n rhyfelwr.”

11“ ‘Dewch ar frys,

chwi genhedloedd o amgylch,

ymgynullwch yno.’ ”

Anfon i lawr dy ryfelwyr, O ARGLWYDD.

12“Bydded i'r cenhedloedd ymysgwyd

a dyfod i ddyffryn Jehosaffat;

oherwydd yno'r eisteddaf mewn barn

ar yr holl genhedloedd o amgylch.

13“Codwch y cryman,

y mae'r cynhaeaf yn barod;

dewch i sathru,

y mae'r gwinwryf yn llawn;

y mae'r cafnau'n gorlifo,

oherwydd mawr yw eu drygioni.”

Bendith Duw ar ei Bobl

14Tyrfa ar dyrfa

yn nyffryn y ddedfryd,

oherwydd agos yw dydd yr ARGLWYDD

yn nyffryn y ddedfryd.

15Bydd yr haul a'r lleuad yn tywyllu,

a'r sêr yn atal eu goleuni.

16Rhua'r ARGLWYDD o Seion,

a chodi ei lef o Jerwsalem;

cryna'r nefoedd a'r ddaear.

Ond y mae'r ARGLWYDD yn gysgod i'w bobl,

ac yn noddfa i blant Israel.

17“Cewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw,

yn trigo yn Seion, fy mynydd sanctaidd.

A bydd Jerwsalem yn sanctaidd,

ac nid â dieithriaid trwyddi eto.

18“Yn y dydd hwnnw,

difera'r mynyddoedd win newydd,

a llifa'r bryniau o laeth,

a bydd holl nentydd Jwda yn llifo o ddŵr.

Tardd ffynnon o dŷ'r ARGLWYDD

a dyfrhau dyffryn Sittim.

19“Bydd yr Aifft yn anghyfannedd

ac Edom yn anialwch diffaith,

oherwydd y gorthrwm ar bobl Jwda

wrth dywallt gwaed y dieuog yn eu gwlad.

20Ond erys Jwda dros byth

a Jerwsalem dros genedlaethau.

21Dialaf eu gwaed, ac ni ollyngaf yr euog,

a phreswylia'r ARGLWYDD yn Seion.”

Notes for verses 19–211 entry

Text notes