information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Jeremeia 45

Addewid Duw i Baruch

1Dyma'r gair a lefarodd y proffwyd Jeremeia wrth Baruch fab Nereia, pan ysgrifennodd ef y geiriau hyn mewn llyfr, yn ôl cyfarwyddyd Jeremeia, yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda: 2“Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel wrthyt ti, Baruch: 3‘Dywedaist, “Gwae fi, oherwydd ychwanegodd yr ARGLWYDD dristwch at fy ngofid; diffygiais gan fy ngriddfan, ac ni chefais orffwys.’ ” 4Fel hyn y dywedi wrth Baruch: ‘Dyma air yr ARGLWYDD: Wele, fe dynnaf i lawr yr hyn a adeiledais, a diwreiddio'r hyn a blennais. Digwydd hyn i'r holl wlad. 5A thithau, a geisi i ti dy hun bethau mawrion? Paid â'u ceisio, oherwydd dyma fi'n dod â drwg ar bob cnawd,’ medd yr ARGLWYDD; ‘ond gadawaf i ti arbed dy fywyd, ple bynnag yr ei.’ ”