information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Jeremeia 31

Israel yn Dychwelyd Adref

1“Yr adeg honno,” medd yr ARGLWYDD, “byddaf fi'n Dduw i holl deuluoedd Israel, a byddant hwy'n bobl i mi.”

2Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:

“Cafodd y bobl a osgôdd y cleddyf ffafr yn yr anialwch;

tramwyodd Israel i gael llonydd iddo'i hun.

3Erstalwm ymddangosodd yr ARGLWYDD iddo.

Cerais di â chariad diderfyn;

am hynny parheais yn ffyddlon iti.

4Adeiladaf di drachefn, y wyryf Israel, a chei dy adeiladu;

cei ymdrwsio eto â'th dympanau, a mynd allan yn llawen i'r ddawns.

5Cei blannu eto winllannoedd ar fryniau Samaria,

a'r rhai sy'n plannu fydd yn cymryd y ffrwyth.

6Oherwydd daw dydd pan fydd gwylwyr ym Mynydd Effraim yn galw,

‘Codwch, dringwn i Seion at yr ARGLWYDD ein Duw.’ ”

Notes for verses 2–61 entry

Text notes

7Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:

“Canwch orfoledd i Jacob, a chodwch gân i'r bennaf o'r cenhedloedd;

cyhoeddwch, molwch a dywedwch,

‘Gwaredodd yr ARGLWYDD dy bobl, sef gweddill Israel.’

8“Ie, dygaf hwy o dir y gogledd, casglaf hwy o bellafoedd byd;

gyda hwy daw'r dall a'r cloff, y feichiog ynghyd â'r hon sy'n esgor;

yn gynulliad mawr fe ddychwelant yma.

9Dônt dan wylo, ond arweiniaf fi hwy â thosturi,

tywysaf hwy wrth ffrydiau dyfroedd

ar ffordd union na faglant ynddi.

Yr wyf yn dad i Israel, ac Effraim yw fy nghyntafanedig.

Notes for verses 8–91 entry

Text notes

10“Clywch air yr ARGLWYDD, genhedloedd;

cyhoeddwch yn yr ynysoedd pell, a dweud,

‘Yr un a wasgarodd Israel fydd yn ei gasglu;

bydd yn gwylio drosto fel bugail dros ei braidd.’

11Canys yr ARGLWYDD a waredodd Jacob,

a'i achub o afael un trech nag ef.

12Dônt a chanu yn uchelder Seion;

ymddisgleiriant gan ddaioni'r ARGLWYDD,

oherwydd yr ŷd a'r gwin a'r olew,

ac oherwydd epil y defaid a'r gwartheg.

A bydd eu bywyd fel gardd ddyfradwy, heb ddim nychdod mwyach.

13Yna fe lawenha'r ferch mewn dawns,

a'r gwŷr ifainc a'r hen hefyd ynghyd;

trof eu galar yn orfoledd a diddanaf hwy;

gwnaf eu llawenydd yn fwy na'u gofid.

14Diwallaf yr offeiriaid â braster,

a digonir fy mhobl â'm daioni,” medd yr ARGLWYDD.

15Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:

“Clywir llef yn Rama,

galarnad ac wylofain,

Rachel yn wylo am ei phlant,

yn gwrthod ei chysuro am ei phlant,

oherwydd nad ydynt mwy.”

16Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:

“Paid ag wylo, ymatal rhag dagrau,

oherwydd y mae elw i'th lafur,” medd yr ARGLWYDD;

“dychwelant o wlad y gelyn.

17Y mae gobaith iti yn y diwedd,” medd yr ARGLWYDD;

“fe ddychwel dy blant i'w bro eu hunain.

18Gwrandewais yn astud ar Effraim yn cwyno,

‘Disgyblaist fi fel llo heb ei ddofi, a chymerais fy nisgyblu;

adfer fi, imi ddychwelyd,

oherwydd ti yw'r ARGLWYDD fy Nuw.

19Wedi imi droi, bu edifar gennyf;

wedi i mi ddysgu, trewais fy nghlun;

cefais fy nghywilyddio a'm gwaradwyddo,

gan ddwyn gwarth fy ieuenctid.’

20“A yw Effraim yn fab annwyl, ac yn blentyn hyfryd i mi?

Bob tro y llefaraf yn ei erbyn, parhaf i'w gofio o hyd.

Y mae fy enaid yn dyheu amdano, ni allaf beidio â thrugarhau wrtho,” medd yr ARGLWYDD.

21“Cyfod iti arwyddion, gosod iti fynegbyst,

astudia'r ffordd yn fanwl, y briffordd a dramwyaist;

dychwel, wyryf Israel, dychwel i'th ddinasoedd hyn.

22Pa hyd y byddi'n ymdroi, ferch anwadal?

Y mae'r ARGLWYDD wedi creu peth newydd ar y ddaear,

benyw yn amddiffyn gŵr.”

Dyfodol Ffyniannus Pobl Dduw

23Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: “Dywedir eto y gair hwn yn nhir Jwda a'i dinasoedd, pan adferaf ei llwyddiant:

‘Bendithied yr ARGLWYDD di,

gartref cyfiawnder, fynydd sanctaidd.’

24Yno bydd Jwda a'i dinasoedd yn preswylio ynghyd,

yr amaethwyr a bugeiliaid y praidd;

25paraf wlychu llwnc y sychedig,

a digoni pob un sydd yn nychu.”

26Ar hyn deffroais a sylwi, a melys oedd fy nghwsg imi.

27“Y mae'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “yr heuaf dŷ Israel a thŷ Jwda â had dyn ac â had anifail. 28Ac fel y gwyliais drostynt i ddiwreiddio a thynnu i lawr, i ddymchwel a dinistrio a pheri drwg, felly y gwyliaf drostynt i adeiladu a phlannu,” medd yr ARGLWYDD. 29“Yn y dyddiau hynny, ni ddywedir mwyach,

‘Y rhieni fu'n bwyta grawnwin surion,

ond ar ddannedd y plant y mae dincod.’

30Oherwydd bydd pob un yn marw am ei gamwedd ei hun; y sawl fydd yn bwyta grawnwin surion, ar ei ddannedd ef y bydd dincod.

31“Y mae'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “y gwnaf gyfamod newydd â thŷ Israel ac â thŷ Jwda. 32Ni fydd yn debyg i'r cyfamod a wneuthum â'u hynafiaid, y dydd y gafaelais yn eu llaw i'w harwain allan o wlad yr Aifft. Torasant y cyfamod hwnnw, er mai myfi oedd yn arglwydd arnynt,” medd yr ARGLWYDD. 33“Ond dyma'r cyfamod a wnaf â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny,” medd yr ARGLWYDD; “rhof fy nghyfraith o'u mewn, ysgrifennaf hi ar eu calon, a byddaf fi'n Dduw iddynt a hwythau'n bobl i mi. 34Ac ni fyddant mwyach yn dysgu bob un ei gymydog a phob un ei berthynas, gan ddweud, ‘Adnebydd yr ARGLWYDD ’; oblegid byddant i gyd yn f'adnabod, o'r lleiaf hyd y mwyaf ohonynt,” medd yr ARGLWYDD, “oherwydd maddeuaf iddynt eu drygioni, ac ni chofiaf eu pechodau byth mwy.”

35Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD,

sy'n rhoi'r haul yn oleuni'r dydd,

a threfn y lleuad a'r sêr yn oleuni'r nos,

sy'n cynhyrfu'r môr nes bod ei donnau'n rhuo

( ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw):

36“Os cilia'r drefn hon o'm gŵydd,” medd yr ARGLWYDD,

“yna bydd had Israel yn peidio hyd byth â bod yn genedl ger fy mron.”

37Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:

“Pe gellid mesur y nefoedd fry,

a chwilio sylfeini'r ddaear isod,

gwrthodwn innau hefyd holl had Israel

am yr holl bethau a wnaethant,” medd yr ARGLWYDD.

38“Y mae'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “yr ailadeiledir y ddinas i'r ARGLWYDD, o dŵr Hananel hyd Borth y Gongl, 39a gosodir y llinyn mesur eto gyferbyn â hi, dros fryn Gareb, a throi tua Goath. 40A bydd holl ddyffryn y celanedd a'r lludw, a'r holl feysydd hyd nant Cidron, hyd gongl Porth y Meirch yn y dwyrain, yn sanctaidd i'r ARGLWYDD. Ni ddiwreiddir mo'r ddinas, ac ni ddymchwelir mohoni mwyach hyd byth.”