information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Jeremeia 30

Addewidion yr ARGLWYDD i'w Bobl

1Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD: 2“Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Ysgrifenna'r holl eiriau a leferais wrthyt mewn llyfr, 3oherwydd y mae'r dyddiau yn dod,’ medd yr ARGLWYDD, ‘yr adferaf lwyddiant i'm pobl Israel a Jwda,’ medd yr ARGLWYDD, ‘a'u dychwelyd i'r wlad a roddais i'w hynafiaid; ac etifeddant hi.’ ”

4Dyma'r geiriau a lefarodd yr ARGLWYDD am Israel ac am Jwda: 5“Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:

‘Sŵn dychryn a glywsom; braw, ac nid heddwch.

6Gofynnwch yn awr, ac ystyriwch. A all gwryw esgor?

Pam, ynteu, y gwelaf bob gŵr â'i ddwylo am ei lwynau fel gwraig wrth esgor,

a phob un yn newid gwedd ac yn gwelwi?

7Canys dydd mawr yw hwnnw, heb ei debyg;

dydd blin yw hwn i Jacob, ond gwaredir ef ohono.

8Yn y dydd hwnnw,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd, ‘torraf ei iau ef oddi ar eu gwar, a drylliaf eu rhwymau; ac ni chaiff dieithriaid wneud gwas ohonynt mwy. 9Ond gwasanaethant yr ARGLWYDD eu Duw, a Dafydd eu brenin, y byddaf yn ei sefydlu iddynt.

Notes for verses 8–91 entry

Text notes

  • Jeremiah 30:8 Felly Groeg. Hebraeg, oddi ar dy war, a drylliaf dy rwymau. View in passage

10“ ‘A thithau, fy ngwas Jacob, paid ag ofni,’ medd yr ARGLWYDD,

‘paid ag arswydo, Israel,

canys achubaf di o bell, a'th epil o wlad eu caethiwed.

Bydd Jacob yn dychwelyd ac yn cael llonydd; bydd yn esmwyth arno, ac ni fydd neb i'w ddychryn.

11Oherwydd yr wyf gyda thi i'th achub,’ medd yr ARGLWYDD;

‘gwnaf ddiwedd ar yr holl genhedloedd y gwasgerais di yn eu plith,

ond ni wnaf ddiwedd arnat ti.

Ond ceryddaf di yn ôl dy haeddiant; ni'th adawaf yn gwbl ddi-gosb.’ ”

12Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:

“Y mae dy glwy'n anwelladwy a'th archoll yn ddwfn;

13nid oes neb i ddadlau dy achos;

nid oes na moddion nac iachâd i'th ddolur.

14Y mae dy holl gariadon wedi dy anghofio; nid ydynt yn dy geisio;

trewais di â dyrnod gelyn, â chosb greulon,

oherwydd maint dy ddrygioni ac amlder dy bechodau.

15Pam yr wyt yn llefain am dy glwy? Y mae dy ddolur yn anwelladwy.

Oherwydd maint dy ddrygioni ac amlder dy bechodau

yr wyf wedi gwneud hyn i ti.

16“Am hynny ysir pawb sy'n dy ysu di; ac fe â pawb sy'n dy ormesu i gyd i gaethiwed.

Bydd dy anrheithwyr yn anrhaith, a gwnaf dy holl ysbeilwyr yn ysbail.

17Oherwydd adferaf iechyd i ti, ac iachâf di o'th friwiau,” medd yr ARGLWYDD,

“am iddynt dy alw yn ysgymun,

Seion, yr un nad yw neb yn ymofyn amdani.”

18Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:

“Dyma fi'n adfer llwyddiant i bebyll Jacob,

yn tosturio wrth ei anheddau.

Cyfodir y ddinas ar ei charnedd,

a saif y llys yn ei le.

19Daw allan ohonynt foliant a sain pobl yn gorfoleddu,

amlhaf hwy, ac ni leihânt; anrhydeddaf hwy, ac nis bychenir.

20Bydd eu plant fel y buont gynt, a sefydlir eu cynulliad yn fy ngŵydd;

cosbaf bob un a'u gorthryma.

21Bydd eu pendefig yn un o'u plith, a daw eu llywodraethwr allan o'u mysg;

paraf iddo nesáu, ac fe ddaw ataf;

canys pwy, o'i ewyllys ei hun, a faidd ddod ataf?” medd yr ARGLWYDD.

22“A byddwch chwi'n bobl i mi, a minnau'n Dduw i chwi.”

23Wele gorwynt yr ARGLWYDD yn mynd allan yn ffyrnig,

corwynt yn chwyrlïo, yn troi uwchben y drygionus.

24Ni phaid digofaint llidiog yr ARGLWYDD, nes cwblhau ei gynlluniau a'u cyflawni;

yn y dyddiau diwethaf y deallwch hyn.