information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Jeremeia 21

Duw yn Gwrthod Sedeceia

1Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD pan anfonodd y Brenin Sedeceia ato ef Pasur fab Malcheia a'r offeiriad Seffaneia fab Maaseia, a dweud, 2“Ymofyn â'r ARGLWYDD drosom ni, oherwydd y mae Nebuchadnesar brenin Babilon yn rhyfela yn ein herbyn. Tybed a wna yr ARGLWYDD â ni yn ôl ei holl ryfeddodau, a pheri iddo gilio ymaith oddi wrthym?”

3Dywedodd Jeremeia wrthynt, “Dyma'r hyn a ddywedwch wrth Sedeceia: 4‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: Wele fi'n troi arnoch chwi yr arfau rhyfel sydd yn eich dwylo i ymladd yn erbyn brenin Babilon a'r Caldeaid, sy'n gwarchae arnoch o'r tu allan i'r gaer; fe'u casglaf hwy i ganol y ddinas hon. 5Byddaf fi fy hun yn rhyfela yn eich erbyn, a'm llaw wedi ei hestyn allan, a'm braich yn gref, mewn soriant a llid a digofaint mawr. 6Trawaf drigolion y ddinas hon, yn ddyn ac yn anifail; byddant farw o haint mawr. 7Ac wedi hynny, medd yr ARGLWYDD, rhof Sedeceia brenin Jwda a'i weision, a'r bobl a weddillir yn y ddinas hon wedi'r haint a'r cleddyf a'r newyn, yng ngafael Nebuchadnesar brenin Babilon, ac yng ngafael eu gelynion a'r rhai a geisiai eu heinioes. Bydd ef yn eu taro â min y cleddyf, heb dosturio wrthynt nac arbed nac estyn trugaredd.’ ”

8“Wrth y bobl hyn hefyd dywed, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Wele fi'n gosod o'ch blaen ffordd bywyd a ffordd marwolaeth. 9Bydd y sawl sy'n aros yn y ddinas hon yn marw drwy gleddyf neu newyn neu haint, a'r sawl sy'n mynd allan ac yn ildio i'r Caldeaid sy'n gwarchae arnoch yn byw; bydd yn arbed ei fywyd. 10Gosodais fy wyneb yn erbyn y ddinas hon, er drwg ac nid er da, medd yr ARGLWYDD; fe'i rhoddir yng ngafael brenin Babilon, a bydd ef yn ei llosgi â thân.’ ”

Barn ar Dŷ Brenin Jwda

11“Wrth dŷ brenin Jwda dywed,

‘Clyw air yr ARGLWYDD.

12Tŷ Dafydd, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:

Barnwch yn uniawn yn y bore,

achubwch yr ysbeiliedig o afael y gormeswr,

rhag i'm llid fynd allan yn dân,

a llosgi heb neb i'w ddiffodd,

oherwydd eich gweithredoedd drwg.’

13“Wele fi yn dy erbyn, ti breswylydd y dyffryn

wrth graig y gwastadedd,” medd yr ARGLWYDD.

“Fe ddywedwch chwi, ‘Pwy ddaw i waered yn ein herbyn?

Pwy ddaw i mewn i'n gwâl?’

14Talaf i chwi yn ôl ffrwyth eich gweithredoedd,” medd yr ARGLWYDD.

“Cyneuaf dân yn ei choedwig,

ac ysa bob peth o'i hamgylch.”