information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Jeremeia 20

Jeremeia a Pasur yr Offeiriad

1Yr oedd Pasur fab Immer, yr offeiriad, yn brif swyddog yn nhŷ'r ARGLWYDD, a phan glywodd fod Jeremeia yn proffwydo'r geiriau hyn, 2trawodd Pasur y proffwyd Jeremeia, a'i roi yn y cyffion ym mhorth uchaf Benjamin yn nhŷ'r ARGLWYDD. 3Trannoeth, pan ollyngodd Pasur ef o'r cyffion, dywedodd Jeremeia wrtho, “Nid Pasur y galwodd yr ARGLWYDD di ond Dychryn-ar-bob-llaw. 4Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Wele fi'n dy wneud yn ddychryn i ti dy hun ac i bawb o'th geraint. Syrthiant wrth gleddyf eu gelynion, a thithau'n gweld. Rhof hefyd holl Jwda yng ngafael brenin Babilon, i'w caethgludo i Fabilon a'u taro â'r cleddyf. 5Rhof hefyd olud y ddinas hon, a'i holl gynnyrch, a phob dim gwerthfawr sydd ganddi, a holl drysorau brenhinoedd Jwda, yng ngafael eu gelynion, i'w hanrheithio a'u meddiannu a'u cludo i Fabilon. 6A byddi di, Pasur, a holl breswylwyr dy dŷ, yn mynd i gaethiwed; i Fabilon yr ei, ac yno y byddi farw, a'th gladdu—ti a'th holl gyfeillion y proffwydaist gelwydd iddynt.’ ”

Notes for verses 1–61 entry

Text notes

Cwynfan Jeremeia

7Twyllaist fi, O ARGLWYDD, ac fe'm twyllwyd.

Cryfach oeddit na mi, a gorchfygaist fi.

Cyff gwawd wyf ar hyd y dydd,

a phawb yn fy ngwatwar.

8Bob tro y llefaraf ac y gwaeddaf,

“Trais! Anrhaith!” yw fy llef.

Canys y mae gair yr ARGLWYDD i mi

yn waradwydd ac yn ddirmyg ar hyd y dydd.

9Os dywedaf, “Ni soniaf amdano,

ac ni lefaraf mwyach yn ei enw”,

y mae yn fy nghalon yn llosgi fel tân

wedi ei gau o fewn fy esgyrn.

Blinaf yn ymatal; yn wir, ni allaf.

10Clywais sibrwd gan lawer—dychryn-ar-bob-llaw:

“Cyhuddwch ef! Fe'i cyhuddwn ni ef!”

Y mae pawb a fu'n heddychlon â mi

yn gwylio am gam gwag gennyf, ac yn dweud,

“Efallai yr hudir ef, ac fe'i gorchfygwn, a dial arno.”

11Ond y mae'r ARGLWYDD gyda mi,

fel rhyfelwr cadarn;

am hynny fe dramgwydda'r rhai sy'n fy erlid,

ac ni orchfygant;

gwaradwyddir hwy'n fawr, canys ni lwyddant,

ac nid anghofir fyth eu gwarth.

12O ARGLWYDD y Lluoedd, yr wyt yn profi'r cyfiawn,

ac yn gweld y galon a'r meddwl;

rho imi weld dy ddialedd arnynt,

canys dadlennais i ti fy nghwyn.

13Canwch i'r ARGLWYDD. Moliannwch yr ARGLWYDD.

Achubodd einioes y tlawd o afael y rhai drygionus.

14Melltith ar y dydd y'm ganwyd;

na fendiger y dydd yr esgorodd fy mam arnaf.

15Melltith ar y gŵr aeth â'r neges i'm tad,

“Ganwyd mab i ti”,

a rhoi llawenydd mawr iddo.

16Bydded y gŵr hwnnw fel y dinasoedd

a ddymchwelodd yr ARGLWYDD yn ddiarbed.

Bydded iddo glywed gwaedd yn y bore,

a bloedd am hanner dydd,

17oherwydd na laddwyd mohonof yn y groth,

ac na fu fy mam yn fedd i mi,

a'i chroth yn feichiog arnaf byth.

18Pam y deuthum allan o'r groth,

i weld trafferth a gofid,

a threulio fy nyddiau mewn gwarth?