information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Jeremeia 14

Y Sychder Mawr

1Dyma air yr ARGLWYDD at Jeremeia ynghylch y sychder:

2“Y mae Jwda'n galaru, a'i phyrth yn llesg;

y maent yn cwynfan ar lawr, a chri Jerwsalem yn esgyn fry.

3Y mae'r pendefigion yn anfon y gweision i gyrchu dŵr;

dônt at y ffosydd a'u cael yn sych,

dychwelant a'u llestri'n wag;

mewn cywilydd a dryswch fe guddiant eu hwynebau.

4Oherwydd craciodd y pridd am na ddaeth glaw i'r wlad;

mewn cywilydd cuddiodd yr amaethwyr eu hwynebau.

5Y mae'r ewig yn bwrw llwdn yn y maes, ac yn ei adael am nad oes porfa;

6y mae'r asynnod gwyllt yn sefyll ar y moelydd uchel, ac yn yfed gwynt fel bleiddiaid;

pylodd eu llygaid am nad oes gwellt.”

7“Yn ddiau, er i'n drygioni dystio yn ein herbyn,

O ARGLWYDD, gweithreda er mwyn dy enw.

Y mae ein gwrthgilio'n aml, pechasom yn dy erbyn.

8Gobaith Israel, a'i geidwad yn awr ei adfyd,

pam y byddi fel dieithryn yn y tir,

fel ymdeithydd yn lledu pabell i aros noson?

9Pam y byddi fel un mewn syndod,

fel un cryf yn methu achub?

Ond eto yr wyt yn ein mysg ni, ARGLWYDD;

dy enw di a roddwyd arnom; paid â'n gadael.”

10Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth y bobl hyn:

“Mor hoff ganddynt yw crwydro heb atal eu traed;

am hynny, ni fyn yr ARGLWYDD mohonynt,

fe gofia eu drygioni yn awr, a chosbi eu pechodau.”

11Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Paid â gweddïo dros les y bobl hyn. 12Pan ymprydiant, ni wrandawaf ar eu cri; pan aberthant boethoffrwm a bwydoffrwm, ni fynnaf hwy; ond difethaf hwy â'r cleddyf a newyn a haint.” 13Dywedais innau, “O fy Arglwydd DDUW, wele'r proffwydi yn dweud wrthynt, ‘Ni welwch gleddyf, ni ddaw newyn arnoch, ond fe rof i chwi wir heddwch yn y lle hwn.’ ” 14A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Proffwydo celwyddau yn fy enw i y mae'r proffwydi; nid anfonais hwy, na gorchymyn iddynt, na llefaru wrthynt. Proffwydant i chwi weledigaethau gau, a dewiniaeth ffôl, a thwyll eu dychymyg eu hunain. 15Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y proffwydi sy'n proffwydo yn fy enw er nad anfonais hwy, sy'n dweud na bydd cleddyf na newyn yn y wlad hon: ‘Trwy'r cleddyf a newyn y difethir y proffwydi hynny. 16Oherwydd y newyn a'r cleddyf, teflir allan i heolydd Jerwsalem y bobl y proffwydir iddynt, heb neb i'w claddu hwy eu hunain na'u gwragedd na'u meibion na'u merched. Tywalltaf eu drygioni arnynt.’ ”

17“A dywedi wrthynt y gair hwn:

‘Difered fy llygaid ddagrau, nos a dydd heb beidio.

Daeth briw enbyd i'r wyryf, merch fy mhobl;

ergyd drom iawn.

18Os af i'r maes, yno y mae'r cyrff a laddwyd â'r cleddyf.

Os af i'r ddinas, yno y mae'r rhai a nychwyd gan y newyn.

Y mae'r proffwyd hefyd a'r offeiriad yn crwydro'r wlad,

a heb ddeall.’ ”

Y Bobl yn Ymbil ar yr ARGLWYDD

19A wrthodaist ti Jwda yn llwyr? A ffieiddiaist ti Seion?

Pam y trewaist ni heb fod inni iachâd?

Disgwyl yr oeddem am heddwch, ond ni ddaeth daioni;

am amser iachâd, ond dychryn a ddaeth.

20Cydnabyddwn, ARGLWYDD, ein drygioni,

a chamwedd ein hynafiaid;

yn wir, yr ydym wedi pechu yn dy erbyn.

21Ond oherwydd dy enw, paid â'n ffieiddio ni,

na dirmygu dy orsedd ogoneddus;

cofia dy gyfamod â ni, paid â'i dorri.

22A oes neb ymhlith gau dduwiau'r cenhedloedd a rydd lawogydd?

A rydd y nefoedd ei hun gawodydd?

Na, ond ti, yr ARGLWYDD ein Duw,

ynot ti yr hyderwn, ti yn unig a wnei'r pethau hyn oll.