information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Jeremeia 13

Y Gwregys Lliain

1Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf: “Dos a phryn wregys lliain, a'i roi am dy lwynau; paid â'i ddodi mewn dŵr.” 2Prynais wregys ar air yr ARGLWYDD, a'i roi am fy llwynau. 3Daeth gair yr ARGLWYDD ataf eilwaith, a dweud, 4“Cymer y gwregys a brynaist, ac sydd am dy lwynau, a dos i ymyl afon Ewffrates a'i guddio yno mewn hollt yn y graig.” 5Felly euthum a'i guddio wrth ymyl afon Ewffrates, yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD i mi. 6Ar ôl dyddiau lawer dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Dos i ymyl afon Ewffrates, a chymer oddi yno y gwregys y gorchmynnais iti ei guddio yno.” 7Euthum innau yno, a chloddio a chymryd y gwregys o'r lle y cuddiais ef; ac wele, yr oedd y gwregys wedi ei ddifetha, ac nid oedd yn dda i ddim. 8Yna daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 9“Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Felly y difethaf finnau falchder Jwda a balchder mawr Jerwsalem. 10Fel y gwregys yma, nad yw'n dda i ddim, y bydd y bobl ddrygionus hyn, sy'n gwrthod gwrando ar fy ngeiriau, ond yn rhodio yn ystyfnigrwydd eu calon, ac yn dilyn duwiau eraill i'w gwasanaethu a'u haddoli. 11Oherwydd fel y gafael gwregys am lwynau rhywun, felly y perais i holl dŷ Israel a holl dŷ Jwda afael ynof fi,” medd yr ARGLWYDD, “i fod yn bobl i mi, ac yn enw, ac yn foliant ac yn ogoniant; ond ni wrandawsant.

Y Gostrel Win

12“Dywed wrthynt y gair yma: ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: Llenwir pob costrel â gwin.’ A dywedant wrthyt, ‘Oni wyddom ni'n iawn y llenwir pob costrel â gwin?’ 13Yna dywedi wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Dyma fi'n llenwi'n feddw holl drigolion y tir hwn, yn frenhinoedd sy'n eistedd ar orseddfainc Dafydd, yn offeiriaid ac yn broffwydi, a holl drigolion Jerwsalem. 14Drylliaf hwy y naill yn erbyn y llall, rhieni a phlant ynghyd, medd yr ARGLWYDD; nid arbedaf ac ni thosturiaf ac ni thrugarhaf, eithr difethaf hwy.’ ”

Bygwth Caethglud

15Clywch a gwrandewch; peidiwch ag ymfalchïo,

canys llefarodd yr ARGLWYDD.

16Rhowch ogoniant i'r ARGLWYDD eich Duw

cyn iddo beri tywyllwch,

a chyn i'ch traed faglu yn y gwyll ar y mynyddoedd;

a thra byddwch yn disgwyl am olau,

bydd yntau'n ei droi yn dywyllwch dudew,

ac yn ei wneud yn nos ddu.

17Ac os na wrandewch ar hyn,

mi wylaf yn y dirgel am eich balchder;

fe ffrydia fy llygaid ddagrau chwerw,

oherwydd dwyn diadell yr ARGLWYDD i gaethiwed.

18“Dywed wrth y brenin a'r fam frenhines,

‘Eisteddwch yn ostyngedig,

oherwydd syrthiodd eich coron anrhydeddus oddi ar eich pen.’

19Caeir dinasoedd y Negef, heb neb i'w hagor;

caethgludir Jwda gyfan, caethgludir hi yn llwyr.”

Notes for verses 18–191 entry

Text notes

20Dyrchafwch eich llygaid, a gwelwch

y rhai a ddaw o'r gogledd.

Ple mae'r praidd a roddwyd i ti, dy ddiadell braf?

21Beth a ddywedi pan roddir y rhai a ddysgaist yn feistri arnat,

a'r rhai a fegaist yn ben arnat?

Oni chydia ynot ofidiau, fel gwraig wrth esgor?

22A phan feddyli, “Pam y digwyddodd hyn i mi?”,

yn ôl amlder dy gamwedd y codwyd godre dy wisg,

ac y dinoethwyd dy gorff.

23A newidia'r Ethiopiad ei groen,

neu'r llewpard ei frychni?

A allwch chwithau wneud daioni,

chwi a fagwyd mewn drygioni?

24“Fe'u chwalaf hwy fel us

a chwythir gan wynt y diffeithwch.

25Hyn fydd dy ran, yr hyn a fesurais i ti,” medd yr ARGLWYDD,

“am i ti fy anghofio, ac ymddiried mewn celwydd.

26Mi godaf odre dy wisg dros dy wyneb,

ac amlygir dy warth.

27Gwelais dy anlladrwydd, dy odineb, dy weryriad nwydus,

a budreddi dy buteindra ar fryn a maes.

Gwae di, Jerwsalem! Ni fyddi'n lân!

Pa hyd, eto, y pery hyn?”