information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Eseia 62

Enw Newydd i Seion

1Er mwyn Seion ni thawaf,

er mwyn Jerwsalem ni fyddaf ddistaw,

hyd oni ddisgleiria'i chyfiawnder yn llachar,

a'i hiachawdwriaeth fel ffagl yn llosgi.

2Bydd y cenhedloedd yn gweld dy gyfiawnder,

a'r holl frenhinoedd dy ogoniant;

gelwir arnat enw newydd,

a roddir i ti o enau'r ARGLWYDD.

3Byddi'n goron odidog yn llaw'r ARGLWYDD,

ac yn dorch frenhinol yn llaw dy Dduw.

4Ni'th enwir mwyach, Gwrthodedig,

ac ni ddywedir drachefn am dy wlad, Anghyfannedd;

eithr enwir di, Heffsiba,

a'th wlad, Beula,

oherwydd ymhyfryda'r ARGLWYDD ynot,

a phriodir dy wlad.

5Fel y bydd llanc yn priodi merch ifanc,

bydd dy adeiladydd yn dy briodi di;

fel y bydd priodfab yn llawen yn ei briod,

felly y bydd dy Dduw yn llawen ynot ti.

Notes for verses 1–52 entries

Text notes

6Ar dy furiau di, O Jerwsalem, gosodais wylwyr

nad ydynt yn tewi ddydd na nos;

chwi sy'n galw ar yr ARGLWYDD,

peidiwch â distewi,

7na rhoi llonydd iddo,

nes iddo sefydlu Jerwsalem,

a'i gwneud yn destun moliant trwy'r byd.

8Tyngodd yr ARGLWYDD i'w ddeheulaw ac i'w fraich nerthol,

“Ni roddaf dy ŷd byth eto'n ymborth i'th elyn,

ac ni chaiff dieithriaid yfed y gwin y llafuriaist amdano;

9ond y rhai a'i casgla fydd yn bwyta,

ac yn diolch i'r ARGLWYDD amdano;

y rhai a'i cynnull fydd yn yfed

oddi mewn i gynteddau fy nghysegr.”

10Ewch i mewn, ewch i mewn drwy'r pyrth,

paratowch ffordd i'r bobloedd;

codwch briffordd a symudwch y cerrig,

dyrchafwch arwydd i'r bobloedd.

11Clywch, cyhoeddodd yr ARGLWYDD

i bellafoedd y ddaear,

“Dywedwch wrth ferch Seion,

‘Y mae dy achubydd yn dyfod;

y mae ei wobr yn ei law,

ac y mae ei dâl ganddo.’ ”

12Fe'u gelwir hwy yn Bobl Sanctaidd,

Gwaredigion yr ARGLWYDD,

ac fe'th elwir di, Yr un a geisiwyd,

Dinas nas gwrthodwyd.