information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Eseia 61

Blwyddyn Ffafr Duw

1Y mae ysbryd yr Arglwydd DDUW arnaf,

oherwydd i'r ARGLWYDD fy eneinio

i gyhoeddi newyddion da i'r tlodion,

a chysuro'r toredig o galon;

i gyhoeddi rhyddid i'r caethion,

a rhoi gollyngdod i'r carcharorion;

2i gyhoeddi blwyddyn ffafr yr ARGLWYDD

a dydd dial ein Duw ni;

i ddiddanu pawb sy'n galaru,

3a gofalu am alarwyr Seion;

a rhoi iddynt goron yn lle lludw,

olew llawenydd yn lle galar,

mantell moliant yn lle digalondid.

Gelwir hwy yn brennau cyfiawnder

wedi eu plannu gan yr ARGLWYDD i'w ogoniant.

4Ailadeiladant hen adfeilion,

cyfodant fannau a fu'n anghyfannedd;

atgyweiriant ddinasoedd diffaith

ac anghyfanedd-dra llawer oes.

5Bydd dieithriaid yn gweini fel bugeiliaid i'ch praidd,

ac estroniaid fydd eich garddwyr a'ch gwinllanwyr.

6Gelwir chwi'n offeiriaid yr ARGLWYDD,

a'ch enwi'n weinidogion ein Duw ni;

cewch fwyta o olud y cenhedloedd

ac ymffrostio yn eu cyfoeth.

7Yn lle'r rhan ddwbl o gywilydd,

yn lle'r gwarth a'r cwynfan a ddaeth i'w rhan,

fe etifeddant ran ddwbl yn eu gwlad,

a chael llawenydd di-baid.

8“Oherwydd rwyf fi, yr ARGLWYDD, yn hoffi cyfiawnder,

ac yn casáu trais a chamwri;

rhof iddynt eu gwobr yn ddi-feth,

a gwnaf gyfamod tragwyddol â hwy.

9Bydd eu plant yn adnabyddus ymysg y cenhedloedd,

a'u hil ymhlith y bobloedd;

bydd pawb fydd yn eu gweld yn eu cydnabod

yn genedl a fendithiodd yr ARGLWYDD.”

10Llawenychaf yn fawr yn yr ARGLWYDD,

gorfoleddaf yn fy Nuw;

canys gwisgodd amdanaf wisgoedd iachawdwriaeth,

taenodd fantell cyfiawnder drosof,

fel y bydd priodfab yn gwisgo'i dorch,

a phriodferch yn ei haddurno'i hun â'i thlysau.

11Fel y gwna'r ddaear i'r blagur dyfu,

a'r ardd i'r hadau egino,

felly y gwna'r ARGLWYDD Dduw i gyfiawnder a moliant

darddu gerbron yr holl genhedloedd.