information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Eseia 59

Pechod, Cyffes ac Adferiad y Bobl

1Nid aeth llaw'r ARGLWYDD yn rhy fyr i achub,

na'i glust yn rhy drwm i glywed;

2ond eich camweddau chwi a ysgarodd

rhyngoch a'ch Duw,

a'ch pechodau chwi a barodd iddo guddio'i wyneb

fel nad yw'n eich clywed.

3Y mae'ch dwylo'n halogedig gan waed,

a'ch bysedd gan gamwedd;

y mae'ch gwefusau'n dweud celwydd,

a'ch tafod yn sibrwd twyll.

4Nid oes erlynydd teg

na diffynnydd gonest,

ond y maent yn ymddiried mewn gwegi ac yn llefaru twyll,

yn feichiog o niwed ac yn esgor ar ddrygioni.

5Y maent yn deor wyau gwiberod,

ac yn nyddu gwe pryf copyn;

os bwyti o'r wyau, byddi farw;

os torri un, daw neidr allan.

6Nid yw gwe pryf copyn yn gwneud dillad;

nid oes neb yn gwneud gwisg ohoni;

ofer yw eu gweithredoedd i gyd,

a'u dwylo'n llunio trais.

7Y mae eu traed yn rhuthro at gamwedd,

ac yn brysio i dywallt gwaed diniwed;

bwriadau maleisus yw eu bwriadau,

distryw a dinistr sydd ar eu ffyrdd;

8ni wyddant am ffordd heddwch,

nid oes cyfiawnder ar eu llwybrau;

y mae eu ffyrdd i gyd yn gam,

ac nid oes heddwch i neb sy'n eu cerdded.

9Am hynny, ciliodd barn oddi wrthym,

ac nid yw cyfiawnder yn cyrraedd atom;

edrychwn am oleuni, ond tywyllwch a gawn,

am ddisgleirdeb, ond mewn caddug y cerddwn;

10rydym yn ymbalfalu ar y pared fel deillion,

yn ymbalfalu fel rhai heb lygaid;

rydym yn baglu ganol dydd fel pe bai'n gyfnos,

fel y meirw yn y cysgodion.

11Rydym i gyd yn chwyrnu fel eirth,

yn cwyno ac yn cwyno fel colomennod;

rydym yn disgwyl am gyfiawnder, ond nis cawn,

am iachawdwriaeth, ond ciliodd oddi wrthym.

12Y mae ein troseddau yn niferus ger dy fron,

a'n pechodau yn tystio yn ein herbyn;

y mae'n troseddau'n amlwg inni,

ac yr ydym yn cydnabod ein camweddau:

13gwrthryfela a gwadu'r ARGLWYDD,

troi ymaith oddi wrth ein Duw,

llefaru trawster a gwrthgilio,

myfyrio a dychmygu geiriau celwyddog.

14Gwthir barn o'r neilltu,

ac y mae cyfiawnder yn cadw draw,

oherwydd cwympodd gwirionedd ar faes y dref,

ac ni all uniondeb ddod i mewn.

15Y mae gwirionedd yn eisiau,

ac ysbeilir yr un sy'n ymwrthod â drygioni.

Gwelodd yr ARGLWYDD hyn,

ac yr oedd yn ddrwg yn ei olwg

nad oedd barn i'w chael.

16Gwelodd nad oedd neb yn malio,

rhyfeddodd nad oedd neb yn ymyrryd;

yna daeth ei fraich ei hun â buddugoliaeth iddo,

a chynhaliodd ei gyfiawnder ef.

17Gwisgodd gyfiawnder fel llurig,

a helm iachawdwriaeth am ei ben;

gwisgodd ddillad dialedd,

a rhoi eiddigedd fel mantell amdano.

18Bydd yn talu i bawb yn ôl ei haeddiant—

llid i'w wrthwynebwyr, cosb i'w elynion;

bydd yn rhoi eu haeddiant i'r ynysoedd.

19Felly, ofnant enw'r ARGLWYDD yn y gorllewin,

a'i ogoniant yn y dwyrain;

oherwydd fe ddaw fel afon mewn llif

yn cael ei gyrru gan ysbryd yr ARGLWYDD.

20“Fe ddaw gwaredydd i Seion,

at y rhai yn Jacob sy'n cefnu ar wrthryfel,”

medd yr ARGLWYDD.

21“Dyma,” medd yr ARGLWYDD, “fy nghyfamod â hwy. Bydd fy ysbryd i arnat, a gosodaf fy ngeiriau yn dy enau; nid ymadawant oddi wrthyt nac oddi wrth dy blant, na phlant dy blant, o'r pryd hwn hyd byth,” medd yr ARGLWYDD.