information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Eseia 58

Gwir Ympryd

1“Gwaedda'n uchel, paid ag arbed,

cod dy lais fel utgorn;

mynega eu gwrthryfel i'm pobl,

a'u pechod i dŷ Jacob.

2Y maent yn fy ngheisio'n feunyddiol,

ac yn deisyfu gwybod fy ffordd;

ac fel cenedl sy'n gweithredu cyfiawnder,

heb droi cefn ar farn eu Duw,

dônt i ofyn barn gyfiawn gennyf,

ac y maent yn deisyfu nesáu at Dduw.

3“ ‘Pam y gwnawn ympryd, a thithau heb edrych?

Pam y'n cystuddiwn ein hunain, a thithau heb sylwi?’ meddant.

Yn wir, wrth ymprydio, ceisio'ch lles eich hunain yr ydych,

a gyrru ar eich gweision yn galetach.

4Y mae eich ympryd yn arwain i gynnen a chweryl,

a tharo â dyrnod maleisus;

nid yw'r fath ddiwrnod o ympryd

yn dwyn eich llais i fyny uchod.

5Ai dyma'r math o ympryd a ddewisais—

diwrnod i rywun ei gystuddio'i hun?

A yw i grymu ei ben fel brwynen,

a gwneud ei wely mewn sachliain a lludw?

Ai hyn a elwi yn ympryd,

yn ddiwrnod i ryngu bodd i'r ARGLWYDD?

6“Onid dyma'r dydd ympryd a ddewisais:

tynnu ymaith rwymau anghyfiawn,

a llacio clymau'r iau,

gollwng yn rhydd y rhai a orthrymwyd,

a dryllio pob iau?

7Onid rhannu dy fara gyda'r newynog,

a derbyn y tlawd digartref i'th dŷ,

dilladu'r noeth pan y'i gweli,

a pheidio ag ymguddio rhag dy deulu dy hun?

8Yna fe ddisgleiria d'oleuni fel y wawr,

a byddi'n ffynnu mewn iechyd yn fuan;

bydd dy gyfiawnder yn mynd o'th flaen,

a gogoniant yr ARGLWYDD yn dy ddilyn.

9Pan elwi, bydd yr ARGLWYDD yn ateb,

a phan waeddi, fe ddywed, ‘Dyma fi.’

“Os symudi'r gorthrwm ymaith,

os peidi â chodi bys i gyhuddo ar gam,

10os rhoddi o'th fodd i'r anghenus,

a diwallu angen y cystuddiol,

yna cyfyd goleuni i ti o'r tywyllwch,

a bydd y caddug fel canol dydd.

11Bydd yr ARGLWYDD yn dy arwain bob amser,

yn diwallu dy angen mewn cyfnod sych,

ac yn cryfhau dy esgyrn;

yna byddi fel gardd ddyfradwy,

ac fel ffynnon ddŵr

a'i dyfroedd heb ballu.

12Byddi rhai ohonoch yn adeiladu'r hen furddunnod

ac yn codi ar yr hen sylfeini;

fe'th elwir yn gaewr bylchau,

ac yn adferwr tai adfeiliedig.

Notes for verses 9–121 entry

Text notes

13“Os peidi â sathru'r Saboth dan draed,

a pheidio â cheisio dy les dy hun ar fy nydd sanctaidd,

ond galw'r Saboth yn hyfrydwch,

a dydd sanctaidd yr ARGLWYDD yn ogoneddus;

os anrhydeddi ef, trwy beidio â theithio,

na cheisio dy les na thrafod dy faterion dy hun;

14yna cei foddhad yn yr ARGLWYDD.

Cei farchogaeth ar uchelfannau'r ddaear,

a phorthaf di ag etifeddiaeth dy dad Jacob.”

Y mae genau'r ARGLWYDD wedi llefaru.