Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Eseia 17

Yn Erbyn Damascus

1Yr oracl am Ddamascus:

“Wele fe beidia Damascus â bod yn ddinas;

bydd yn bentwr o adfeilion.

2Gwrthodir ei dinasoedd am byth,

a byddant yn lle i ddiadelloedd

orwedd ynddo heb neb i'w cyffroi.

3Derfydd am y gaer yn Effraim,

ac am y frenhiniaeth yn Namascus;

bydd gweddill Syria fel gogoniant Israel,”

medd ARGLWYDD y Lluoedd.

Notes for verses 1–31 entry

Text notes

  • Isaiah 17:2 Felly Groeg. Hebraeg, Bydd dinasoedd Aroer wedi eu gwrthod. View in passage

4“Ac yn y dydd hwnnw,

bydd gogoniant Jacob yn cilio

a braster ei gig yn darfod.

5Pan fydd medelwr yn casglu'r cnwd ŷd,

ac yn medi'r tywysennau â'i fraich,

bydd fel lloffa tywysennau yn nyffryn Reffaim.

6Ac ni chaiff ond gweddillion wrth guro'r olewydd,

dim ond dau ffrwyth neu dri ar flaen y brigau,

pedwar neu bump o ffrwythau ar ganghennau'r coed,”

medd yr ARGLWYDD, Duw Israel.

7Yn y dydd hwnnw fe edrych pobl at eu Gwneuthurwr, a throi eu golwg at Sanct Israel. 8Nid edrychant at yr allorau, gwaith eu dwylo, nac ychwaith at yr hyn a wnaeth eu bysedd—y pyst cysegredig a'r allorau arogldarthu. 9Yn y dydd hwnnw y gadewir eu dinasoedd cadarn fel adfeilion dinasoedd yr Hefiaid a'r Amoriaid, a adawyd o achos yr Israeliaid; a byddant yn ddiffaith.

Notes for verses 7–91 entry

Text notes

  • Isaiah 17:9 Cymh. Groeg. Hebraeg, fel tir coediog a rhosydd. View in passage

10Oherwydd anghofiaist y Duw a'th achubodd;

ni chofiaist graig dy gadernid;

am hynny, er i ti blannu planhigion hyfryd

a gosod impyn estron,

11a'u cael i dyfu ar y dydd y plennaist hwy

ac i flodeuo yn y bore yr heuaist hwy,

bydd y cnwd wedi crino mewn dydd o ofid

a gwendid nychlyd.

12Och! Twrf pobloedd lawer

yn taranu fel tonnau'r môr;

y mae rhuad y bobloedd fel rhuad dyfroedd cryfion.

13Er bod y bobloedd yn rhuo fel rhuad dyfroedd mawrion,

pan geryddir hwy, fe ffoant ymhell;

erlidir hwy fel peiswyn ar fynydd o flaen y gwynt,

fel plu ysgall o flaen corwynt.

14Tua'r hwyrddydd wele drallod;

cyn y bore aeth y cyfan.

Dyma dynged ein hysbeilwyr,

dyma ran ein rheibwyr.