information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Hosea 2

Gomer Anffyddlon—Israel Anffyddlon

1“Dywedwch wrth eich brodyr, ‘Fy-mhobl ’,

ac wrth eich chwiorydd, ‘Cafodd-drugaredd ’.

2Plediwch â'ch mam, plediwch—

onid yw'n wraig i mi,

a minnau'n ŵr iddi hi?—

ar iddi symud ei phuteindra o'i hwyneb,

a'i godineb oddi rhwng ei bronnau.

3Onid e, byddaf yn ei diosg yn noeth a'i gosod fel ar ddydd ei geni,

a'i gwneud fel anialwch a'i gosod fel tir sych,

a'i lladd â syched;

4ni wnaf drugaredd â'i phlant,

am eu bod yn blant puteindra.

5Oherwydd i'w mam buteinio,

ac i'r hon a'u cariodd ymddwyn yn waradwyddus,

a dweud, ‘Af ar ôl fy nghariadon,

sy'n rhoi imi fy mara a'm dŵr, fy ngwlân a'm llin, fy olew a'm diod’—

6am hynny, caeaf ei ffordd â drain,

a gosodaf rwystr rhag iddi gael ei llwybrau.

7Fe ymlid ei chariadon heb eu dal,

fe'u cais heb eu cael;

yna dywed, ‘Dychwelaf at y gŵr oedd gennyf,

gan ei bod yn well arnaf y pryd hwnnw nag yn awr.’

8Ond ni ŵyr hi mai myfi a roddodd iddi ŷd a gwin ac olew,

ac amlhau iddi arian ac aur, pethau a roesant hwy i Baal.

9Felly, cymeraf yn ôl fy ŷd yn ei bryd a'm gwin yn ei dymor;

dygaf ymaith fy ngwlân a'm llin, a guddiai ei noethni.

10Yn awr, dinoethaf ei gwarth gerbron ei chariadon,

ac ni fyn yr un ohonynt ei chipio o'm llaw.

11Rhof derfyn ar ei holl lawenydd,

ei gwyliau, ei newydd-loerau, ei Sabothau a'i gwyliau sefydlog.

12Difethaf ei gwinwydd a'i ffigyswydd, y dywedodd amdanynt,

‘Dyma fy nhâl, a roes fy nghariadon i mi.’

Gwnaf hwy'n goedwig, a bydd yr anifeiliaid gwylltion yn eu difa.

13Cosbaf hi am ddyddiau gŵyl y Baalim, pan losgodd arogldarth iddynt,

a gwisgo'i modrwy a'i haddurn,

a mynd ar ôl ei chariadon a'm hanghofio i,” medd yr ARGLWYDD.

Notes for verses 1–134 entries

Text notes

Yr ARGLWYDD yn Caru ei Bobl

14“Am hynny, wele, fe'i denaf;

af â hi i'r anialwch, a siarad yn dyner wrthi.

15Rhof iddi yno ei gwinllannoedd,

a bydd dyffryn Achor yn ddrws gobaith.

Yno fe ymetyb hi fel yn nyddiau ei hieuenctid,

fel yn y dydd y daeth i fyny o wlad yr Aifft.”

Notes for verses 14–151 entry

Text notes

16“ ‘Yn y dydd hwnnw,’ medd yr ARGLWYDD, gelwi fi ‘Fy ngŵr’, ac ni'm gelwi mwyach ‘Fy Baal ’; 17symudaf ymaith enwau'r Baalim o'i genau, ac ni chofir hwy mwy wrth eu henwau. 18Yn y dydd hwnnw gwnaf i ti gyfamod â'r anifeiliaid gwylltion, ac adar yr awyr ac ymlusgiaid y ddaear; symudaf o'r tir y bwa, y cleddyf, a rhyfel, a gwnaf i ti orffwyso mewn diogelwch. 19Fe'th ddyweddïaf â mi fy hun dros byth; fe'th ddyweddïaf â mi mewn cyfiawnder a barn, mewn cariad a thrugaredd. 20Fe'th ddyweddïaf â mi mewn ffyddlondeb, a byddi'n adnabod yr ARGLWYDD.”

Notes for verses 16–203 entries

Text notes

21“ ‘Yn y dydd hwnnw,’ medd yr ARGLWYDD,

‘atebaf y nef, ac etyb hithau y ddaear;

22etyb y ddaear yr ŷd, y gwin a'r olew,

ac atebant hwythau Jesreel;

23ac fe'i heuaf i mi fy hun yn y tir.

Gwnaf drugaredd â Lo-ruhama;

dywedaf wrth Lo-ammi, “Fy-mhobl wyt ti”,

a dywed yntau, “Fy Nuw”.’ ”

Notes for verses 21–233 entries

Text notes