information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Hosea 1

1Gair yr ARGLWYDD at Hosea fab Beeri yn nyddiau Usseia, Jotham, Ahas a Heseceia, brenhinoedd Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam fab Joas, brenin Israel.

Gwraig a Phlant Hosea

2Dyma ddechrau geiriau'r ARGLWYDD trwy Hosea. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Hosea, “Dos, cymer iti wraig o butain, a phlant puteindra, oherwydd puteiniodd y wlad i gyd trwy gilio oddi wrth yr ARGLWYDD.” 3Fe aeth a chymryd Gomer, merch Diblaim; beichiogodd hithau a geni mab iddo. 4Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Enwa ef Jesreel, oherwydd ymhen ychydig eto dialaf ar dŷ Jehu am waed Jesreel, 5a rhof derfyn ar frenhiniaeth tŷ Israel. Y dydd hwnnw torraf fwa Israel yn nyffryn Jesreel.”

Notes for verses 2–51 entry

Text notes

6Beichiogodd Gomer eilwaith a geni merch. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Hosea, “Enwa hi Lo-ruhama, oherwydd ni wnaf drugaredd mwyach â thŷ Israel, i roi maddeuant iddynt. 7Ond gwnaf drugaredd â thŷ Jwda, a gwaredaf hwy trwy'r ARGLWYDD eu Duw; ond ni waredaf hwy trwy'r bwa, y cleddyf, rhyfel, meirch na marchogion.”

Notes for verses 6–71 entry

Text notes

8Wedi iddi ddiddyfnu Lo-ruhama, beichiogodd Gomer a geni mab. 9A dywedodd yr ARGLWYDD, “Enwa ef Lo-ammi, oherwydd nid ydych yn bobl i mi, na minnau'n Dduw i chwithau.”

Notes for verses 8–91 entry

Text notes

Adfer Israel

10Bydd nifer plant Israel fel tywod y môr,

na ellir ei fesur na'i rifo.

Yn y lle y dywedwyd wrthynt, “Nid-fy-mhobl ydych”,

fe ddywedir wrthynt, “Meibion y Duw byw”.

11Cesglir ynghyd blant Jwda a phlant Israel,

a gosodant iddynt un pen;

dônt i fyny o'r wlad,

oherwydd mawr fydd dydd Jesreel.

Notes for verses 10–111 entry

Text notes