information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Hosea 12

Condemnio Israel a Jwda

1Y mae Effraim yn bugeilio gwynt,

ac yn dilyn gwynt y dwyrain trwy'r dydd;

amlhânt dwyll a thrais;

gwnânt gytundeb ag Asyria,

a dygant olew i'r Aifft.

2Y mae gan yr ARGLWYDD achos yn erbyn Jwda;

fe gosba Jacob yn ôl ei ffyrdd,

a thalu iddo yn ôl ei weithredoedd.

3Yn y groth gafaelodd yn sawdl ei frawd,

ac wedi iddo dyfu ymdrechodd â Duw.

4Ymdrechodd â'r angel a gorchfygu;

wylodd a cheisiodd ei ffafr.

Ym Methel y cafodd ef,

a siarad yno ag ef —

5ARGLWYDD Dduw y lluoedd,

yr ARGLWYDD yw ei enw.

6A thithau, trwy nerth dy Dduw, dychwel,

cadw deyrngarwch a barn,

a disgwyl wrth dy Dduw bob amser.

Notes for verses 2–61 entry

Text notes

7Y mae masnachwr a chanddo gloriannau twyllodrus

yn caru gorthrymu.

8Dywedodd Effraim, “Yn wir, rwy'n gyfoethog,

ac enillais olud;

yn fy holl enillion ni cheir

na drygioni na phechod.”

9“Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw,

a'th ddygodd o wlad yr Aifft;

gwnaf iti eto drigo mewn pebyll,

fel yn nyddiau'r ŵyl sefydlog.

Notes for verses 7–91 entry

Text notes

10“Lleferais wrth y proffwydi;

ac amlheais weledigaethau

a dangos gwers trwy'r proffwydi.

11Am fod eilunod yn Gilead,

pethau cwbl ddiddim;

am fod aberthu teirw yn Gilgal,

bydd eu hallorau fel pentyrrau cerrig

ar rychau'r meysydd.”

12Ffodd Jacob i dir Aram;

gwasanaethodd Israel am wraig;

am wraig y cadwodd ddefaid.

13Trwy broffwyd y dygodd yr ARGLWYDD Israel o'r Aifft,

a thrwy broffwyd y cadwyd ef.

14Cythruddodd Effraim ef yn chwerw,

a bydd i'w Arglwydd ei adael yn ei euogrwydd,

a throi ei waradwydd yn ôl arno.