information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Hosea 11

Cariad Duw at ei Bobl Wrthryfelgar

1“Pan oedd Israel yn fachgen fe'i cerais,

ac o'r Aifft y gelwais fy mab.

2Fel y galwn arnynt, aent ymaith oddi wrthyf;

aberthent i Baal ac arogldarthu i eilunod.

Notes for verses 1–21 entry

Text notes

  • Hosea 11:2 Felly Groeg. Hebraeg, Fel y galwent… oddi wrthynt. View in passage

3“Myfi a fu'n dysgu Effraim i gerdded,

a'u cymryd erbyn eu breichiau;

ond ni fynnent gydnabod i mi eu hiacháu.

4Tywysais hwy â rheffynnau caredig

ac â rhwymau cariad;

bûm iddynt fel un yn codi'r iau, yn llacio'r ffrwyn,

ac yn plygu atynt i'w porthi.

Notes for verses 3–41 entry

Text notes

5“Ni ddychwelant i wlad yr Aifft,

ond Asyria fydd yn frenin arnynt,

am iddynt wrthod dychwelyd ataf.

6Chwyrlïa cleddyf yn erbyn eu dinasoedd,

a difa byst eu pyrth

a'u difetha am eu cynllwynion.

7Y mae fy mhobl yn mynnu cilio oddi wrthyf;

er iddynt alw ar dduw goruchel,

ni fydd yn eu dyrchafu o gwbl.

8“Pa fodd y'th roddaf i fyny, Effraim,

a'th roi ymaith, Israel?

Pa fodd y'th wnaf fel Adma,

a'th osod fel Seboim?

Newidiodd fy meddwl ynof;

enynnodd fy nhosturi hefyd.

9Ni chyflawnaf angerdd fy llid,

ni ddinistriaf Effraim eto;

canys Duw wyf fi, ac nid meidrolyn,

y Sanct yn dy ganol;

ac ni ddof i ddinistrio.

Notes for verses 8–91 entry

Text notes

10“Ânt ar ôl yr ARGLWYDD; fe rua fel llew.

Pan rua ef, daw ei blant dan grynu o'r gorllewin;

11dônt dan grynu fel aderyn o'r Aifft,

ac fel colomen o wlad Asyria,

a gosodaf hwy eto yn eu cartrefi,” medd yr ARGLWYDD.

12Amgylchodd Effraim fi â chelwydd,

a thŷ Israel â thwyll;

ond y mae Jwda'n ymwneud â Duw,

ac yn ffyddlon i'r Sanct.

Notes for verses 10–121 entry

Text notes