information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Genesis 11

Tŵr Babel

1Un iaith ac un ymadrodd oedd i'r holl fyd. 2Wrth ymdeithio yn y dwyrain, cafodd y bobl wastadedd yng ngwlad Sinar a thrigo yno. 3A dywedasant wrth ei gilydd, “Dewch, gwnawn briddfeini a'u crasu'n galed.” Priddfeini oedd ganddynt yn lle cerrig, a phyg yn lle calch. 4Yna dywedasant, “Dewch, adeiladwn i ni ddinas, a thŵr a'i ben yn y nefoedd, a gwnawn inni enw, rhag ein gwasgaru dros wyneb yr holl ddaear.” 5Disgynnodd yr ARGLWYDD i weld y ddinas a'r tŵr yr oedd y bobl wedi eu hadeiladu, 6a dywedodd, “Y maent yn un bobl a chanddynt un iaith; y maent wedi dechrau gwneud hyn, a bellach ni rwystrir hwy mewn dim y bwriadant ei wneud. 7Dewch, disgynnwn, a chymysgu eu hiaith hwy yno, rhag iddynt ddeall ei gilydd yn siarad.” 8Felly gwasgarodd yr ARGLWYDD hwy oddi yno dros wyneb yr holl ddaear, a pheidiasant ag adeiladu'r ddinas. 9Am hynny gelwir ei henw Babel, oherwydd yno y cymysgodd yr ARGLWYDD iaith yr holl fyd, a gwasgarodd yr ARGLWYDD hwy oddi yno dros wyneb yr holl ddaear.

Notes for verses 1–91 entry

Text notes

Disgynyddion Sem

1 Cron. 1:24–27

10Dyma genedlaethau Sem. Bu Sem fyw am gan mlynedd cyn geni iddo Arffaxad ddwy flynedd wedi'r dilyw. 11Wedi geni Arffaxad, bu Sem fyw am bum can mlynedd, a chafodd feibion a merched eraill.

12Bu Arffaxad fyw am dri deg a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Sela. 13Wedi geni Sela, bu Arffaxad fyw am bedwar cant a thair o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.

14Bu Sela fyw am dri deg o flynyddoedd cyn geni iddo Heber. 15Wedi geni Heber, bu Sela fyw am bedwar cant a thair o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.

16Bu Heber fyw am dri deg a phedair o flynyddoedd cyn geni iddo Peleg. 17Wedi geni Peleg, bu Heber fyw am bedwar cant tri deg o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.

18Bu Peleg fyw am dri deg o flynyddoedd cyn geni iddo Reu. 19Wedi geni Reu, bu Peleg fyw am ddau gant a naw o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.

20Bu Reu fyw am dri deg a dwy o flynyddoedd cyn geni iddo Serug. 21Wedi geni Serug, bu Reu fyw am ddau gant a saith o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.

22Bu Serug fyw am dri deg o flynyddoedd cyn geni iddo Nachor. 23Wedi geni Nachor, bu Serug fyw am ddau gan mlynedd, a chafodd feibion a merched eraill.

24Bu Nachor fyw am ddau ddeg a naw o flynyddoedd cyn geni iddo Tera. 25Wedi geni Tera, bu Nachor fyw am gant un deg a naw o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.

26Bu Tera fyw am saith deg o flynyddoedd cyn geni iddo Abram, Nachor a Haran.

Disgynyddion Tera

27Dyma genedlaethau Tera. Tera oedd tad Abram, Nachor a Haran; a Haran oedd tad Lot. 28Bu Haran farw cyn ei dad Tera yng ngwlad ei enedigaeth, yn Ur y Caldeaid. 29Yna cymerodd Abram a Nachor wragedd iddynt eu hunain; enw gwraig Abram oedd Sarai, ac enw gwraig Nachor oedd Milca, merch Haran, tad Milca ac Isca. 30Yr oedd Sarai yn ddi-blant, heb eni plentyn.

31Cymerodd Tera ei fab Abram, a'i ŵyr Lot fab Haran, a Sarai ei ferch-yng-nghyfraith, gwraig ei fab Abram; ac aethant allan gyda'i gilydd o Ur y Caldeaid i fynd i wlad Canaan, a daethant i Haran a thrigo yno. 32Dau gant a phump o flynyddoedd oedd oes Tera; a bu farw Tera yn Haran.