information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Genesis 10

Disgynyddion Meibion Noa

1 Cron. 1:5–23

1Dyma genedlaethau meibion Noa, sef Sem, Cham a Jaffeth. Ganwyd iddynt feibion wedi'r dilyw. 2Meibion Jaffeth oedd Gomer, Magog, Madai, Jafan, Tubal, Mesech, a Tiras. 3Meibion Gomer: Ascenas, Riffath, a Togarma. 4Meibion Jafan: Elisa, Tarsis, Cittim, a Dodanim; 5o'r rhain yr ymrannodd pobl yr ynysoedd. Dyna feibion Jaffeth yn eu gwledydd, pob un yn ôl ei iaith a'i lwyth, ac yn eu cenhedloedd.

Notes for verses 1–51 entry

Text notes

  • Genesis 10:5 Tebygol. Hebraeg heb Dyna… Jaffeth. Cymh. adn. 20, 31. View in passage

6Meibion Cham oedd Cus, Misraim, Put, a Canaan. 7Meibion Cus: Seba, Hafila, Sabta, Raama, a Sabteca. Meibion Raama: Seba a Dedan. 8Cus oedd tad Nimrod; hwn oedd y cyntaf o gedyrn y ddaear. 9Yr oedd yn heliwr cryf gerbron yr ARGLWYDD; dyna pam y dywedir, “Fel Nimrod, yn heliwr cryf gerbron yr ARGLWYDD.” 10Dechreuodd ei frenhiniaeth gyda Babel, Erech, Accad a Calne yng ngwlad Sinar. 11Aeth allan o'r wlad honno i Asyria ac adeiladu Ninefe, Rehoboth-ir, Cala, 12a Resen, dinas fawr rhwng Ninefe a Cala. 13Yr oedd Misraim yn dad i Ludim, Anamim, Lehabim, Nafftwhim, 14Pathrusim, Casluhim a Cafftorim, y daeth y Philistiaid ohonynt.

Notes for verses 6–141 entry

Text notes

15Canaan oedd tad Sidon, ei gyntafanedig, a Heth; 16hefyd y Jebusiaid, Amoriaid, Girgasiaid, 17Hefiaid, Arciaid, Siniaid, 18Arfadiaid, Semariaid, a Hamathiaid. Wedi hynny gwasgarwyd teuluoedd y Canaaneaid, 19ac estyn eu ffin o Sidon i gyfeiriad Gerar, hyd Gasa; ac i gyfeiriad Sodom, Gomorra, Adma, a Seboim, hyd Lesa. 20Dyna feibion Cham, yn ôl eu llwythau a'u hieithoedd, ynghyd â'u gwledydd a'u cenhedloedd.

21I Sem hefyd, tad holl feibion Heber, brawd hynaf Jaffeth, ganwyd plant. 22Meibion Sem oedd Elam, Assur, Arffaxad, Lud, ac Aram. 23Meibion Aram: Us, Hul, Gether, a Mas. 24Arffaxad oedd tad Sela, a Sela oedd tad Heber. 25I Heber ganwyd dau fab; enw un oedd Peleg, oherwydd yn ei ddyddiau ef rhannwyd y ddaear, a Joctan oedd enw ei frawd. 26Joctan oedd tad Almodad, Saleff, Hasar-mafeth, Jera, 27Hadoram, Usal, Dicla, 28Obal, Abimael, Seba, 29Offir, Hafila, a Jobab; yr oeddent oll yn feibion Joctan. 30Yr oedd eu tir yn ymestyn o Mesa i gyfeiriad Seffar, i fynydd-dir y dwyrain. 31Dyna feibion Sem, yn ôl eu llwythau a'u hieithoedd, ynghyd â'u gwledydd a'u cenhedloedd.

Notes for verses 21–311 entry

Text notes

32Dyma lwythau meibion Noa, yn ôl eu hachau, yn eu cenhedloedd; ac o'r rhain yr ymrannodd y cenhedloedd dros y ddaear wedi'r dilyw.