1 Brenhinoedd 8
Cyrchu Arch y Cyfamod i'r Deml
2 Cron. 5:2—6:2
1Yna cynullodd y Brenin Solomon henuriaid Israel a holl benaethiaid y llwythau a phennau-teuluoedd Israel ato'i hun yn Jerwsalem, i gyrchu arch cyfamod yr ARGLWYDD o Ddinas Dafydd, sef Seion. 2Daeth yr holl Israeliaid ynghyd at y Brenin Solomon ar yr ŵyl ym mis Ethanim, y seithfed mis. 3Wedi i holl henuriaid Israel gyrraedd, cododd yr offeiriaid yr arch, 4a chyrchodd yr offeiriaid a'r Lefiaid arch yr ARGLWYDD a phabell y cyfarfod a'r holl lestri cysegredig oedd yn y babell. 5Ac yr oedd y Brenin Solomon, a phawb o gynulleidfa Israel oedd wedi ymgynnull ato, yno o flaen yr arch yn aberthu defaid a gwartheg rhy niferus i'w rhifo na'u cyfrif. 6Felly y dygodd yr offeiriaid arch cyfamod yr ARGLWYDD a'i gosod yn ei lle yng nghysegr mewnol y tŷ, y cysegr sancteiddiaf, dan adenydd y cerwbiaid, 7oherwydd yr oedd y cerwbiaid yn estyn eu hadenydd dros le'r arch ac yn cysgodi dros yr arch a'i pholion. 8Yr oedd y polion yn ymestyn allan oddi wrth yr arch, fel y gellid gweld eu blaenau o'r cysegr o flaen y cysegr mewnol, ond nid oeddent i'w gweld o'r tu allan. Ac yno y maent hyd y dydd hwn. 9Nid oedd yn yr arch ond y ddwy lech garreg a osododd Moses ynddi yn Horeb, lle y gwnaeth yr ARGLWYDD gyfamod â'r Israeliaid pan oeddent yn dod allan o'r Aifft. 10Fel yr oedd yr offeiriaid yn dod allan o'r cysegr, llanwyd tŷ'r ARGLWYDD gan y cwmwl; ni fedrai'r offeiriaid barhau i weinyddu o achos y cwmwl; 11yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi tŷ'r ARGLWYDD. 12Yna dywedodd Solomon:
“Dywedodd yr ARGLWYDD y trigai yn y tywyllwch.
13Gorffennais adeiladu i ti dŷ aruchel,
lle iti breswylio ynddo dros byth.”
Solomon yn Annerch y Bobl
2 Cron. 6:3–11
14Yna tra oeddent i gyd yn sefyll, trodd y brenin atynt a bendithio holl gynulleidfa Israel. 15Dywedodd, “Bendigedig fyddo ARGLWYDD Dduw Israel, a gyflawnodd â'i law yr hyn a addawodd â'i enau i'm tad Dafydd, pan ddywedodd, 16‘Er y dydd y dygais fy mhobl Israel allan o'r Aifft, ni ddewisais ddinas ymhlith holl lwythau Israel i adeiladu ynddi dŷ i'm henw fod yno; ond dewisais Jerwsalem i'm henw fod yno, a dewisais Ddafydd i fod yn ben ar fy mhobl Israel.’ 17Yr oedd ym mryd fy nhad Dafydd adeiladu tŷ i enw ARGLWYDD Dduw Israel, 18ond dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, ‘Yr oedd yn dy fryd adeiladu tŷ i'm henw, a da oedd dy fwriad, 19ond nid tydi fydd yn adeiladu'r tŷ; dy fab, a enir iti, a adeilada'r tŷ i'm henw.’ 20Yn awr y mae'r ARGLWYDD wedi gwireddu'r addewid a wnaeth; yr wyf fi wedi dod i le fy nhad Dafydd i eistedd ar orsedd Israel, fel yr addawodd yr ARGLWYDD, ac wedi adeiladu'r tŷ i enw ARGLWYDD Dduw Israel. 21Yr wyf hefyd wedi trefnu lle i'r arch sy'n cynnwys y cyfamod a wnaeth yr ARGLWYDD â'n hynafiaid pan ddaeth â hwy allan o'r Aifft.”
Notes for verses 14–211 entry
Text notes
1 Kings 8:16 Felly Groeg a 2 Cron. 6:6. Hebraeg heb ond dewisais… fod yno. View in passage
Gweddi Solomon
2 Cron. 6:12–42
22Yna safodd Solomon o flaen allor yr ARGLWYDD, yng ngŵydd holl gynulleidfa Israel, ac estynnodd ei ddwylo tua'r nef, 23a dweud: “O ARGLWYDD Dduw Israel, nid oes Duw fel tydi yn y nef uwchben nac ar ddaear lawr, yn cadw cyfamod ac yn ffyddlon i'th bobl sy'n dy wasanaethu â'u holl galon. 24Canys cedwaist d'addewid i'th was Dafydd, fy nhad; heddiw cyflawnaist â'th law yr hyn a addewaist â'th enau. 25Yn awr, felly, O ARGLWYDD Dduw Israel, cadw'r addewid a wnaethost i'th was Dafydd fy nhad, pan ddywedaist, ‘Gofalaf na fyddi heb etifedd i eistedd ar orsedd Israel, dim ond i'th blant wylio'u ffordd, a'm gwasanaethu fel y gwnaethost ti.’ 26Yn awr, felly, O Dduw Israel, safed y gair a leferaist wrth dy was Dafydd, fy nhad.
27“Ai gwir yw y preswylia Duw ar y ddaear? Wele, ni all y nefoedd na nef y nefoedd dy gynnwys; pa faint llai y tŷ hwn a godais! 28Eto cymer sylw o weddi dy was ac o'i ddeisyfiad, O ARGLWYDD fy Nuw; gwrando ar fy llef, a'r weddi y mae dy was yn ei gweddïo heddiw ger dy fron. 29Bydded dy lygaid, nos a dydd, ar y tŷ y dywedaist amdano, ‘Fy enw a fydd yno’, a gwrando'r weddi y bydd dy was yn ei gweddïo tua'r lle hwn. 30Gwrando hefyd ar ddeisyfiad dy was a'th bobl Israel pan fyddant yn gweddïo tua'r lle hwn. Gwrando yn y nef, lle'r wyt yn preswylio, ac o glywed, maddau.
31“Os bydd rhywun wedi troseddu yn erbyn rhywun arall ac yn gorfod cymryd llw, a'i dyngu gerbron dy allor yn y tŷ hwn, 32gwrando di o'r nef a gweithredu. Gweinydda farn i'th bobl drwy gondemnio'r drwgweithredwr yn ôl ei ymddygiad, ond llwydda achos y cyfiawn yn ôl ei gyfiawnder.
33“Os trechir dy bobl Israel gan y gelyn am iddynt bechu yn dy erbyn, ac yna iddynt edifarhau a chyffesu dy enw, a gweddïo ac erfyn arnat yn y tŷ hwn, 34gwrando di yn y nef a maddau bechod dy bobl Israel ac adfer hwy i'r tir a roddaist i'w hynafiaid.
35“Os bydd y nefoedd wedi cau, a'r glaw yn pallu, am iddynt bechu yn d'erbyn, ac yna iddynt weddïo tua'r lle hwn a chyffesu dy enw ac edifarhau am eu pechod oherwydd i ti eu cosbi, 36gwrando di yn y nef a maddau bechod dy weision a'th bobl Israel, a dysg iddynt y ffordd dda y dylent ei rhodio; ac anfon law ar dy wlad, a roddaist yn etifeddiaeth i'th bobl.
37“Os bydd yn y wlad newyn, haint, deifiad, malltod, locustiaid neu lindys, neu os bydd gelyn yn gwarchae ar unrhyw un o'i dinasoedd—beth bynnag fo'r pla neu'r clefyd— 38clyw bob gweddi, pob deisyfiad gan bawb o'th bobl Israel wrth i bob un sy'n ymwybodol o'i glwy ei hun estyn ei ddwylo tua'r tŷ hwn; 39gwrando hefyd yn y nef lle'r wyt yn preswylio, a maddau. Gweithreda a rho i bob un yn ôl ei ffyrdd, oherwydd yr wyt ti'n deall ei fwriad; canys ti yn unig sy'n adnabod calon pob un; 40felly byddant yn dy ofni holl ddyddiau eu bywyd ar wyneb y tir a roddaist i'n hynafiaid.
Notes for verses 37–401 entry
Text notes
1 Kings 8:37 Felly Groeg, Syrieg. Hebraeg, ar wlad. View in passage
41“Os daw rhywun dieithr, nad yw'n un o'th bobl Israel, o wlad bell er mwyn dy enw— 42canys clywant am dy enw mawr, ac am dy law gref a'th fraich estynedig—ac os gweddïa tua'r tŷ hwn, 43gwrando di yn y nef lle'r wyt yn preswylio, a gweithreda yn ôl y cwbl y mae'r dieithryn yn ei ddeisyf arnat, er mwyn i holl bobloedd y byd adnabod dy enw a'th ofni yr un fath â'th bobl Israel, a sylweddoli mai ar dy enw di y gelwir y tŷ hwn a adeiledais i.
44“Os bydd dy bobl yn mynd i ryfela â'u gelyn, pa ffordd bynnag yr anfoni hwy, ac yna iddynt weddïo ar yr ARGLWYDD tua'r ddinas a ddewisaist, a'r tŷ a godais i'th enw, 45gwrando di yn y nef ar eu gweddi a'u hymbil, a chynnal eu hachos.
46“Os pechant yn dy erbyn—oherwydd nid oes neb nad yw'n pechu—a thithau'n digio wrthynt ac yn eu darostwng i'w gelynion a'u caethgludo i wlad y gelyn, boed bell neu agos, 47ac yna iddynt ystyried yn y wlad lle caethgludwyd hwy, ac edifarhau a deisyf arnat o wlad eu caethiwed â'r geiriau, ‘Yr ydym wedi pechu a throseddu a gwneud drygioni’, 48ac yna dychwelyd atat â'u holl galon a'u holl enaid yng ngwlad y gelynion sydd wedi eu caethgludo, a gweddïo arnat i gyfeiriad eu gwlad, a roddaist i'w hynafiaid, a'r ddinas a ddewisaist, a'r tŷ a godais i'th enw, 49gwrando di, yn y nef lle'r wyt yn preswylio, ar eu gweddi a'u deisyfiad, a chynnal eu hachos. 50A maddau i'th bobl a bechodd yn d'erbyn am eu holl droseddu yn d'erbyn; rho iddynt ennyn trugaredd yng nghalon y rhai a'u caethgludodd. 51Oherwydd dy bobl a'th etifeddiaeth ydynt, gan mai ti a ddaeth â hwy allan o'r Aifft o ganol y ffwrnais haearn. 52Felly bydded dy lygaid yn sylwi ar ddeisyfiad dy was a'th bobl Israel, i wrando arnynt bob tro y galwant arnat; 53oherwydd ti sydd wedi eu neilltuo yn etifeddiaeth i ti dy hun a'u didoli oddi wrth bobloedd y byd, fel y dywedaist, O Arglwydd DDUW, drwy dy was Moses pan ddaethost â'n hynafiaid allan o'r Aifft.”
Y Weddi Derfynol
54Wedi i Solomon orffen cyflwyno i'r ARGLWYDD yr holl weddi ac ymbil yma a'i ddwylo yn ymestyn tua'r nef, cododd o benlinio gerbron allor yr ARGLWYDD, 55a sefyll i fendithio holl gynulleidfa Israel â llais uchel, a dweud: 56“Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD a roddodd orffwystra i'w bobl Israel yn hollol fel y dywedodd. Ni fethodd yr un gair o'i holl addewid ddaionus a fynegodd trwy ei was Moses. 57Bydded yr ARGLWYDD ein Duw gyda ni fel y bu gyda'n hynafiaid ni; na fydded iddo'n gwrthod na'n gadael. 58Bydded inni droi ein calonnau tuag ato, a cherdded yn ei holl ffyrdd a chadw ei orchmynion, ei ordinhadau a'i farnedigaethau, a orchmynnodd i'n hynafiaid. 59Bydded fy ngeiriau hyn, a weddïais gerbron yr ARGLWYDD, yn agos at yr ARGLWYDD ein Duw ddydd a nos, fel y bo iddo gynnal achos ei was ac achos ei bobl Israel yn ôl yr angen, 60er mwyn i holl bobloedd y byd wybod mai'r ARGLWYDD sydd Dduw ac nad oes arall. 61Bydded eich calon yn llwyr ymroddedig i'r ARGLWYDD ein Duw, i rodio yn ei ordinhadau a chadw ei orchmynion fel heddiw.”
Cysegru'r Deml
2 Cron. 7:4–10
62Yna bu'r brenin, a holl Israel gydag ef, yn aberthu gerbron yr ARGLWYDD. 63Aberthodd Solomon i'r ARGLWYDD ddwy fil ar hugain o wartheg a chwe ugain mil o ddefaid yn heddoffrwm. Felly y cysegrodd y brenin a'r holl Israeliaid dŷ'r ARGLWYDD. 64Ar y diwrnod hwnnw cysegrodd y brenin ganol y cwrt oedd o flaen tŷ'r ARGLWYDD, gan mai yno'r oedd yn offrymu'r poethoffrwm a'r bwydoffrwm a braster yr heddoffrwm, am fod yr allor bres oedd gerbron yr ARGLWYDD yn rhy fach i dderbyn y poethoffrwm a'r bwydoffrwm a braster yr heddoffrwm.
65A'r pryd hwnnw cadwodd Solomon, a holl Israel gydag ef, ŵyl gerbron yr ARGLWYDD ein Duw am wythnos, yn gynulliad mawr, o Lebo-hamath hyd nant yr Aifft. 66Ar yr wythfed dydd gollyngodd y bobl ymaith, ac wedi iddynt fendithio'r brenin, aethant adref yn llawen ac yn falch o galon am yr holl ddaioni a wnaeth yr ARGLWYDD i'w was Dafydd ac i'w bobl Israel.
Notes for verses 65–661 entry
Text notes
1 Kings 8:65 Felly Groeg. Hebraeg, wythnos ac wythnos, sef pythefnos. View in passage