information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

1 Brenhinoedd 7

Palas Solomon

1Tair blynedd ar ddeg y bu Solomon yn adeiladu ei dŷ ei hun cyn ei orffen yn llwyr.

2Adeiladodd Dŷ Coedwig Lebanon, yn gan cufydd o hyd, yn hanner can cufydd o led, a deg cufydd ar hugain o uchder, ar dair rhes o golofnau cedrwydd, gyda thrawstiau cedrwydd ar ben y colofnau. 3To o gedrwydd oedd uwchben y tulathau ar y pum colofn a deugain, a safai pymtheg ym mhob rhes. 4Ac yr oedd tair rhes o ffenestri yn wynebu ei gilydd fesul tair. 5Yr oedd fframiau sgwâr i'r holl ddrysau, ac i'r ffenestri oedd yn wynebu ei gilydd fesul tair.

Notes for verses 2–52 entries

Text notes

6Gwnaeth Neuadd y Colofnau hefyd, yn hanner can cufydd o hyd a deg cufydd ar hugain o led, a chyntedd o'i blaen gyda cholofnau, a chornis uwchben.

7Gwnaeth Neuadd yr Orsedd, lle'r oedd yn gweinyddu barn, sef y Neuadd Barn, wedi ei phanelu â chedrwydd o'r llawr i'r distiau. 8Ac yr oedd ei dŷ annedd ei hun ar y cwrt arall yn nes i mewn na'r neuadd, ond o'r un gwneuthuriad. Gwnaeth Solomon hefyd dŷ yr un fath â'r neuadd hon i'w briod, merch Pharo.

Notes for verses 7–81 entry

Text notes

9Yr oedd y rhai hyn i gyd, y tu mewn a'r tu allan, o feini trymion, wedi eu torri i fesur a'u llifio, o'r sylfaen i'r bondo, o gwrt tŷ'r ARGLWYDD, hyd y cwrt mawr. 10Yr oedd y sylfeini o feini mawr, trymion, rhai o wyth a rhai o ddeg cufydd; 11ac uwchben, meini trymion wedi eu torri i fesur, a chedrwydd. 12Yr oedd gan y cwrt mawr dri chwrs o gerrig nadd a chwrs o drawstiau cedrwydd, a'r un modd cwrt mewnol tŷ'r ARGLWYDD hyd borth y tŷ.

Notes for verses 9–121 entry

Text notes

Tasg Hiram

13Anfonodd y Brenin Solomon i Tyrus i gyrchu Hiram, 14mab i wraig weddw o lwyth Nafftali, a'i dad yn hanu o Tyrus. Gof pres cywrain a deallus oedd ef, yn gwybod sut i wneud pob math o waith pres; a daeth at y Brenin Solomon a gwneud ei holl waith.

Y Ddwy Golofn Bres

2 Cron. 3:15–17

15Bwriodd ddwy golofn bres, deunaw cufydd o uchder, gyda chylchlin o ddeuddeg cufydd yr un; yr oeddent yn wag o'r tu mewn, a'r deunydd yn bedair modfedd o drwch. 16Gwnaeth ddau gnap o bres tawdd i'w gosod ar ben y colofnau, y naill a'r llall yn bum cufydd o uchder. 17Yna gwnaeth rwydwaith a phlethiadau o gadwynwaith i'r naill a'r llall o'r cnapiau ar ben y colofnau. 18Gwnaeth bomgranadau yn ddwy res ar y rhwydwaith o'i amgylch, i guddio'r cnapiau ar ben y naill golofn a'r llall. 19Yr oedd y cnapiau ar ben y colofnau yn y porth yn waith lili am bedwar cufydd. 20Yr oedd y cnapiau ar ben y colofnau yn codi o'r cylch crwn oedd gogyfer â'r rhwydwaith, ac yr oedd dau gant o bomgranadau yn rhesi o gylch y ddau gnap. 21Gosododd y colofnau ym mhorth y deml; cododd y golofn dde a'i galw'n Jachin, yna cododd y golofn chwith a'i galw'n Boas. 22Ar ben y colofnau yr oedd gwaith lili; ac fel hyn y gorffennwyd gwaith y colofnau.

Notes for verses 15–224 entries

Text notes

Y Môr o Fetel Tawdd

2 Cron. 4:2–5

23Yna fe wnaeth y môr o fetel tawdd; yr oedd yn grwn ac yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl, a phum cufydd o uchder, yn mesur deg cufydd ar hugain o gylch. 24O amgylch y môr, yn ei gylchynu dan ei ymyl am ddeg cufydd ar hugain, yr oedd cnapiau; yr oeddent mewn dwy res ac wedi eu bwrw'n rhan ohono. 25Safai'r môr ar gefn deuddeg ych, tri yn wynebu tua'r gogledd, tri tua'r gorllewin, tri tua'r de, a thri tua'r dwyrain, a'u cynffonnau at i mewn. 26Dyrnfedd oedd ei drwch, a'i ymyl wedi ei weithio fel ymyl cwpan neu flodyn lili; yr oedd yn dal dwy fil o bathau.

Notes for verses 23–261 entry

Text notes

Y Trolïau Pres

27Gwnaeth hefyd ddeg o drolïau pres, yn bedwar cufydd o hyd a phedwar cufydd o led a thri chufydd o uchder. 28Yng ngwneuthuriad y trolïau yr oedd panelau rhwng fframiau, ac ar y panelau hyn yr oedd llewod ac ychen a cherwbiaid. 29Ac yr oedd plethennau o riswaith ar y fframiau, uwchben ac o dan y llewod a'r ychen. 30Yr oedd gan bob troli bedair olwyn bres ac echelau pres, ac ysgwyddau dan eu pedair congl ar gyfer y noe, a'r ysgwyddau yn waith tawdd, a phlethennau wrth bob un. 31Yr oedd ei genau oddi mewn i gorongylch, yn gufydd o uchder, a'r genau yn gylch cufydd a hanner, fel gwneuthuriad soced. Yr oedd cerfiadau o gwmpas y genau, a'r panelau yn sgwâr, nid yn grwn. 32Yr oedd y pedair olwyn o dan y panelau, a phlatiau echel yr olwynion yn y ffrâm; cufydd a hanner oedd uchder pob olwyn. 33Yr oedd yr olwynion wedi eu gwneud fel olwyn cerbyd, a'u hechelau a'u camegau a'u ffyn a'u bothau i gyd yn waith tawdd. 34Ac yr oedd pedair ysgwydd ym mhedair congl pob troli, a'r ysgwyddau yn un darn â'r troli. 35Ac ar ben y troli yr oedd cylch crwn hanner cufydd o uchder, a'r platiau echel a'r panelau yn un darn â hi. 36Ar wyneb y platiau a'r panelau cerfiodd gerwbiaid, llewod a phalmwydd, a phlethennau o amgylch pob un. 37Fel hyn y gwnaeth y deg troli, gyda'r un mold, yr un maint a'r un ffurf i bob un.

38Hefyd fe wnaeth ddeg noe bres i ddal deugain bath yr un, pob noe yn bedwar cufydd. Gosododd hwy bob yn un ar y deg troli, 39pum troli ar ochr dde y tŷ, a phump ar yr ochr chwith; a gosododd y môr ar ochr dde-ddwyrain y tŷ.

Offer y Deml

2 Cron. 4:11—5:1

40Gwnaeth Hiram y crochanau, y rhawiau a'r cawgiau, a gorffen yr holl waith a wnaeth i'r Brenin Solomon ar gyfer tŷ'r ARGLWYDD: 41y ddwy golofn, y ddau gnap coronog ar ben y colofnau; y ddau rwydwaith dros y ddau gnap coronog ar ben y colofnau; 42y pedwar can pomgranad yn ddwy res ar y ddau rwydwaith dros y ddau gnap coronog ar y colofnau; y deg troli; 43y deg noe ar y trolïau; 44y môr a'r deuddeg ych dano; 45y crochanau, y rhawiau, a'r cawgiau. Ac yr oedd yr holl offer hyn a wnaeth Hiram i'r Brenin Solomon ar gyfer tŷ'r ARGLWYDD o bres gloyw. 46Toddodd y brenin hwy yn y cleidir rhwng Succoth a Sarethan yng ngwastadedd yr Iorddonen. 47Peidiodd Solomon â phwyso'r holl lestri gan mor niferus oeddent, ac na ellid pwyso'r pres.

48A gwnaeth Solomon yr holl offer aur oedd yn perthyn i dŷ'r ARGLWYDD: yr allor aur a'r bwrdd aur i ddal y bara gosod; 49y canwyllbrennau o aur pur, pump ar y dde a phump ar y chwith o flaen y cysegr mewnol; y blodau a'r llusernau a'r gefeiliau aur; 50y ffiolau, y sisyrnau, y cawgiau, y llwyau a'r thuserau hefyd o aur pur; a'r socedau aur i'r dorau tu mewn i'r cysegr sancteiddiaf ac i'r dorau o fewn y côr.

51Wedi i'r Brenin Solomon orffen yr holl waith a wnaeth yn nhŷ'r ARGLWYDD, dygodd y pethau yr oedd ei dad Dafydd wedi eu cysegru, yr arian a'r aur a'r offer, a'u gosod yn nhrysordai tŷ'r ARGLWYDD.