Cymdeithas y Beibl yw prif gyhoeddwr y Beibl Cymraeg. Yn 2014 cyhoeddwyd Y Beibl Cymraeg Newydd gyda Mynegair, ac yn 2015 cyhoeddwyd beibl.net mewn print am y tro cyntaf, sef y cyfieithiad mwyaf newydd o’r Beibl Cymraeg. Roedd awydd pobl ledled Cymru i ddefnyddio cyfieithiad modern ac i’w rannu ag eraill yn gymaint nes bod yr argraffiad cyntaf wedi ei werthu allan drwy archebion ymlaen llaw cyn ei fod wedi cyrraedd y siopau hyd yn oed. Ewch i siop Cymdeithas y Beibl i ganfod mwy am ein Beiblau Cymraeg. Archebwch eich copi heddiw: neu prynwch gopïau i’w rhannu gyda’ch ysgolion cyfrwng Cymraeg lleol neu eich capeli.
Mae pob un o’r prif gyfieithiadau o’r Beibl Cymraeg hefyd ar gael ar-lein drwy wahanol wefannau ac apiau:
Mae’r Ap Beibl wedi’i greu gyda chymorth Cymdeithas y Beibl er mwyn sicrhau y gallwch gael gafael ar y Beibl ar unrhyw bryd, yn unrhyw le.
Mae’r ap yn hawdd ei ddefnyddio ac unwaith mae’r ap wedi’i lawr lwytho, nid oes angen cysylltiad i’r we.
Gan fod yr ap yn cynnwys pob cyfieithiad Cymraeg o’r Beibl, gallwch eu cymharu yn hawdd gan ehangu eich dealltwriaeth.
Mae’r ap ar gael yn rhad ac am ddim i ddyfeisiadau iOS ac Android.
Lawr lwythwch i iOS Lawr lwythwch i Android
Mae pob un o dri prif gyfieithiad y Beibl Cymraeg hefyd ar gael yn rhad ac am ddim ar bible.com a drwy’r Bible app. Llwythwch i lawr nawr i’w ddefnyddio ar eich gliniadur, llechen neu ffôn.
Mae Agor y Llyfr yn weithredol drwy Gymru i gyd. Mae deunyddiau dysgu a hyfforddi ar gael yn y Gymraeg , ochr yn ochr â fideo hyrwyddol a llyfrynnau ar wefan Agor y Llyfr. Cysylltwch â Swyddogion Hyfforddi a Datblygu Cymru i gael mwy o wybodaeth ac i gymryd rhan.
Llawrlwythwch ein Pamffled Cyffredinol
Byd Mary Jones yw ein canolfan ymwelwyr o’r radd flaenaf yn Llanycil, ger y Bala. Gan ddefnyddio fideos, graffeg gwybodaeth a deunydd rhyngweithiol, mae’r ganolfan yn adrodd stori Mary Jones, Thomas Charles a hanes y Beibl a Chymdeithas y Beibl yng Nghymru. Bydd ymwelwyr hefyd yn dysgu mwy am y Beibl ei hun a gwaith Cymdeithas y Beibl o gwmpas y byd heddiw. I ganfod mwy ac i drefnu eich ymweliad, ewch i bydmaryjonesworld.org.uk neu cysylltwch â Nerys Siddall, Rheolwr a Swyddog Addysg y Ganolfan.
Rhan hanfodol o’n gwaith yng Nghymru yw gweithio mewn partneriaeth gyda phobl a sefydliadau eraill sydd, ‘run fath â ni, yn teimlo’n angerddol am y Beibl yng Nghymru.