Skip to main content

Ymprydio

Author: Bible Society, 27 February 2017

Mae ymprydio yn ymarfer traddodiadol o’r Grawys. Roedd hi hefyd yn arfer disgwyliedig yn yr Hen Destament (gweler Barnwyr 20.26, 1 Samuel 7.6, er enghraifft) ac yn yr eglwys cynnar (Actau 13.2-3; 14.23). 

Ymprydiodd Dafydd pan oedd ei fab yn sâl (2 Sam 12.23). Mae ‘na lawer o enghreifftiau eraill yn y Beibl o bobl oedd yn ceisio Duw drwy ymprydio: gweler Esra yn gofyn i Dduw am daith ddiogel (Es 8:21) ac Esther a’r Iddewon cyn iddi hi fynd i’r Brenin. 

Yn y Testament Newydd, mi wnaeth Iesu ymprydio yn yr anialwch cyn iddo ddechrau ei wasanaeth yng Ngalilea. Dywedodd wrth y disgyblion bod ‘na amser i ymprydio ac amser i ddathlu (Mat 9.14-15). Un peth pwysig ydi bwriad yr ympryd: dim sioe ffug o fod yn sanctaidd, ond arddangosiad o ymostyngiad i Dduw. 

Dyma'r math o ymprydio dw i eisiau: cael gwared â chadwyni anghyfiawnder; datod rhaffau'r iau, a gollwng y rhai sy'n cael eu gormesu yn rhydd; dryllio popeth sy'n rhoi baich ar bobl. Rhannu dy fwyd gyda'r newynog, rhoi lle i fyw i'r rhai tlawd sy'n ddigartref a rhoi dillad i rywun rwyt yn ei weld yn noeth. Peidio ceisio osgoi gofalu am dy deulu. Eseia 58.6-7 beibl.net

Sut fyddwch chi’n ymprydio yn y Grawys eleni? Dyma ambell awgrym:

•     ‘Cael gwared â chadwyni anghyfiawnder’: peidiwch ag edrych ar y teledu un noson ac ysgrifennwch lythyr i’ch Aelod Seneddol am anghenion ffoaduriaid
•    ‘Rhannu dy fwyd gyda’r newynog’: beth am beidio â phrynu cacennau neu siocled ac anfon rhodd i Gymorth Cristnogol neu TearFund yn ei le?
•    ‘Peidio ceisio osgoi gofalu am dy deulu’: cysylltu â theulu nad ydych chi wedi gweld ers tipyn. 

Rhannwch syniadau eraill ar dudalen Facebook Beibl Byw. 

Mae Byw y Beibl  yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru.

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible