Skip to main content

Y rhai bregus

Author: Bible Society, 30 August 2017

O’r diwedd mae ein cymdeithas wedi deffro i’w cyfrifoldeb tuag at y rhai sy'n fregus ac wedi dysgu o wersi ofnadwy'r gorffennol.

Ond a yw’r Beibl yn dweud wrthym sut y dylem ymateb i rai o'r bobl o'n cwmpas sydd fwyaf agored i niwed, megis plant, oedolion bregus a'r rheiny sydd wedi dioddef camdriniaeth wrth ddwylo eraill? Gwyddom mai “Duw cariad yw”, ond nid cariad bocs siocled yw hwn - mae'n gariad gweithgar ac adferol, yn llawn cyfiawnder a thosturi. Tystiodd Dafydd, yn ystod amser bregus iawn yn ei fywyd, am gymeriad yr Arglwydd,

“Mae'r ARGLWYDD yn agos at y rhai sydd wedi torri eu calonnau. Mae e'n achub y rhai sydd wedi anobeithio.” Salm 34:18.

Mae Solomon, yn Salm 72, yn gweddïo am nodweddion Duw i fod yn amlwg yn ei frenhiniaeth ei hun megis cyfiawnder a thosturi tuag at yr anghenus a'r gorthrymedig. Mae gennym ni rôl hefyd, i ymyrryd a dangos yr un tosturi a chariad â Duw a pheidio â chymryd yn ganiataol mai cyfrifoldeb rhywun arall ydyw. Mae Salm 82 yn dweud wrthym yn bendant:

“Dylech roi dedfryd o blaid y gwan a'r amddifad! Sefyll dros hawliau'r rhai anghenus sy'n cael eu gorthrymu! Cadw'r rhai sy'n wan a di-rym yn saff a'u hachub nhw o afael pobl ddrwg!”. Salm 82.

Mae Eseciel (34:16) nid yn unig yn ymateb pan fydd rhywbeth yn dod ar draws ei lwybr ond yn hytrach mae'n rhagweithiol -

"Dw i'n mynd i chwilio am y rhai sydd ar goll, a dod â'r rhai sydd wedi crwydro yn ôl adre. Dw i'n mynd i rwymo briwiau'r rhai sydd wedi'u hanafu, a helpu'r rhai sy'n wan.” Eseciel 34:16.

Mae'r geiriau yma yn Marc 9:42 yn ein gadael ni heb amheuaeth pa mor ddifrifol mae'r Arglwydd yn cymryd camdriniaeth o blant a rhai bregus a chamddefnydd o bŵer:

“Pwy bynnag sy'n gwneud i un o'r rhai bach yma sy'n credu ynof fi bechu, byddai'n well iddo gael ei daflu i'r môr gyda maen melin wedi'i rwymo am ei wddf." Marc 9:42.

Mae'r Beibl yn cynnig gobaith i'r rheiny sy'n agored i niwed, mewn poen ac mewn angen. Ar ddiwedd y Beibl, yn Datguddiad 21, mae Duw yn addo

"Bydd yn sychu pob deigryn o'u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen.” Datguddiad 21.

Mae'n bwysig i gofio, yn aml iawn, fod Duw yn defnyddio ei bobl ei hun, sy'n adlewyrchu ei gymeriad, fel modd o ddod ag iachâd ac adferiad i eraill wrth iddynt ofalu, ymestyn allan, gwrando, eirioli, ceisio cyfiawnder a herio anghyfiawnder, a byth yn anwybyddu'r anghenus a'r bregus oherwydd -

""Pan wnaethoch chi helpu'r person lleiaf pwysig sy'n perthyn i mi, gwnaethoch chi fy helpu i." Mathew 25:40

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma


Julie Edwards
Swyddog Hyfforddiant a Diogelwch, Panel Diogelwch Cyd-enwadol.

Mae Byw y Beibl  yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible