Skip to main content

Y Grawys

Author: Bible Society, 16 February 2017

Mae’r Grawys yn dechrau’r wythnos yma. Be’ mae’r Beibl yn ei ddweud am y Grawys? Wel, dim byd, a dweud y gwir!

Hen arferiad yr Eglwys ers talwm ydy’r Grawys. Ysgrifennodd Ireneus o Lyons (c.130-c.200) am arfer tebyg, ond ar y pryd dim ond 2 neu 3 diwrnod oedd o – bellach mae’n 40 diwrnod. Erbyn Cyngor Nicea yn 325 roedd 40 diwrnod o ymprydio’n arferol i bobl oedd yn paratoi i’w bedydd. Bellach mae pawb yn yr Eglwys yn dechrau arfer y Grawys trwy ymprydio am 40 diwrnod cyn y Pasg. Beth, felly, ydy’r cysylltiad efo’r Beibl? 

Mae dau beth pwysig yn dod i’n feddwl i ar y pwnc yma: taith 40 mlynedd yr Israeliaid trwy’r anialwch a 40 diwrnod Iesu yn yr anialwch ar ôl ei fedydd.

Mi gafodd yr Israeliaid eu profi yn yr anialwch: a oedden nhw’n fodlon dilyn yr Arglwydd yn unig, gan ddibynnu arno am bopeth a  dilyn ei orchmynion ym mhob agwedd o’u bywydau?

Trwy ei demtiad yn yr anialwch dangosodd Iesu pa mor bwysig ydy addoli Duw yn unig.  Dydy bara beunyddiol, neu awdurdod neu ogoniant ddim mor bwysig ag addoli a gwasanaethu Duw.

Beth felly ydy ein hymateb Beiblaidd i’r Grawys? Beth am:

  • Feddwl am un peth sy’n effeithio ar eich bywyd yn fwy nag arweiniad Dduw: sut fedrwch chi wrando ar Dduw yn fwy trwy wythnosau’r Grawys?
  • Beidio ag edrych ar eich ffôn, tabled neu gyfrifiadur am 1, 2 (neu mwy!) awr pob diwrnod trwy’r Grawys?
  • Rannu’ch syniadau eraill ar dudalen Facebook Beibl Byw.

Christine Daniel
Mae Byw y Beibl  yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru.

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible