Skip to main content

Y Croeshoelio

Author: Bible Society, 11 April 2017

Be’ mae’r Beibl yn ei ddweud am...y Croeshoeliad?

Ar ddydd Gwener y Groglith fe’n harweinir i gofio am Iesu yn marw ar y groes.

Uniaethodd Iesu â’r Gwas Dioddefus yn Ail Eseia:

Eto, ein dolur ni a gymerodd, a’n gwaeledd ni a ddygodd – a ninnau’n ei gyfrif wedi ei glwyfo a’i daro gan Dduw, a’i ddarostwng. Ond archollwyd ef am ein troseddau ni, a’i ddryllio am ein camweddau ni; roedd pris ein heddwch ni arno ef, a thrwy ei gleisiau ef y cawsom ni iachâd. Eseia 53: 4–5

Yn ei ing a’i boen cofiodd Iesu am ei fam:    

Pan welodd Iesu ei fam, felly, a’r disgybl yr oedd yn ei garu yn sefyll yn ei hymyl, meddai wrth ei fam, “Wraig, dyma dy fab di.” Yna dywedodd wrth y disgybl, “Dyma dy fam di.” Ac o’r awr honno, cymerodd y disgybl hi i mewn i’w gartref. Ioan 19: 26–27

Mae Iesu yn gofyn i Dduw faddau i’r troseddwyr:

Daethpwyd ag eraill hefyd, dau droseddwr, i’w dienyddio gydag ef. Pan ddaethant i’r lle a elwir Y Benglog, yno croeshoeliwyd ef a’r troseddwyr, y naill ar y dde a’r llall ar y chwith iddo. Ac meddai Iesu, “O Dad, maddau iddynt, oherwydd ni wyddant beth y maent yn ei wneud.” A bwriasant goelbrennau i rannu ei ddillad. Luc 23: 32–34

Rhoddwyd diod iddo i dorri’i syched:

Ar ôl hyn yr oedd Iesu’n gwybod bod pob peth bellach wedi ei orffen, ac er mwyn i’r Ysgrythur gael ei chyflawni dywedodd, “Y mae arnaf syched.” Yr oedd llestr ar lawr yno, yn llawn o win sur, a dyma hwy’n dodi ysbwng, wedi ei lenwi â’r gwin yma, ar ddarn o isop, ac yn ei godi at ei wefusau. Yna, wedi iddo gymryd y gwin, dywedodd Iesu, “Gorffennwyd.” Gwyrodd ei ben, a rhoi i fyny ei ysbryd. Ioan 19: 28–30

Yn y tywyllwch roedd Iesu’n amau fod Duw wedi’i adael:

A phan ddaeth yn hanner dydd, bu tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o’r gloch y prynhawn. Ac am dri o’r gloch gwaeddodd Iesu â llef uchel, “Eloï, Eloï, lema sabachthani”, hynny yw, o’i gyfieithu, “Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?” Marc 15: 33–34

Yng nghanol y tywyllwch cyflwynodd Iesu ei fywyd i Dduw:

Erbyn hyn yr oedd hi tua hanner dydd. Daeth tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o’r gloch y prynhawn, a’r haul wedi diffodd. Rhwygwyd llen y deml yn ei chanol. Llefodd Iesu â llef uchel, “O Dad, i’th ddwylo di yr wyf yn cyflwyno fy ysbryd.” A chan ddweud hyn bu farw. Luc 23: 44–46

Beth ydi’ch ymateb i’r Groes yr wythnos yma?

  • Darllenwch Marc 31-38 (BCN). Be’ mae ‘codi eich croes a'i ganlyn o’ yn ei olygu i chi heddiw? 
  • Meddyliwch: sut teimlodd y disgyblion ar ôl marwolaeth Iesu? Oes ‘na rywun dach chi’n nabod sy ddim yn gwybod mai ar ôl y groes mae gobaith? Fedrwch chi rannu hanes Sul y Pasg efo nhw? 

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma


Aled Davies, Cyngor Ysgolion Sul
(Wedi’i addasu i’r we gan Christine Daniel)
Mae Byw y Beibl yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru
 


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible