Author: Bible Society, 28 November 2017
Mae yna lawer iawn o bobl yn ein cymdeithas sy’n teimlo’n unig y dyddiau yma – teimlo rywsut eu bod wedi eu gwahanu oddi wrth bobl eraill. Stad o feddwl ydy o, ac mae’n gallu bod yn anodd iawn i’w oresgyn. Gall pobl deimlo’n unig mewn tyrfa, a dydy bod ar eich pen eich hun ddim bob amser yn gyfystyr ag unigrwydd.
Mae yna enghreifftiau yn y Beibl o bobl yn teimlo’n unig. Falle mai un o’r enghreifftiau mwyaf cyfarwydd ydy hanes y proffwyd Elias. Roedd o’n teimlo fod pobl Israel wedi troi cefn ar Dduw a lladd y proffwydi ac mae’n mynd i’r anialwch ac yn gofyn am gael marw:
“Dw i wedi cael digon, Arglwydd. Cymer fy mywyd.” 1 Brenhinoedd 19:4
Ond er ei anobaith, roedd Duw yna yn gofalu amdano. Roedd Elias wedi ei lethu gan y teimlad,
“Dyma fi, yr unig un sydd ar ôl” 1 Brenhinoedd 19:10
ond roedd Duw gydag o. Yna dyma Duw yn datguddio ei hun iddo mewn “distawrwydd llwyr” (adn.12 beibl.net) neu’r “llef ddistaw fain”. Does dim rhaid wrth sŵn a bwrlwm i brofi presenoldeb Duw!
Mae Dafydd hefyd yn mynegi ei ymdeimlad o unigrwydd yn rhai o’r Salmau. Ac roedd hynny’n gwbl ddealladwy pan feddyliwn amdano yn ŵr ifanc yn gorfod dianc am ei fywyd rhag cleddyf y brenin Saul. Neu beth am y cyfnod hwnnw, flynyddoedd yn ddiweddarach, pan oedd wedi gorfod dianc o Jerwsalem am fod ei fab ei hun wedi gwrthryfela a dwyn yr orsedd oddi arno (2 Samuel 15)?
Pan mae unigrwydd yn gafael mewn pobl mae’n eu llethu a’u caethiwo. Mae’n gwasgu ar y meddwl. Ond neges Duw yn y Beibl dro ar ôl tro ydy ei fod o’n dal yna gyda ni: “Bydda i gyda ti.” Dyna neges yr Emaniwel i ni. Dwedodd Iesu y byddai yn gadael yr Ysbryd Glan i’n helpu a’n cysuro:
“Bydda i’n gofyn i’r Tad, a bydd e’n rhoi un arall fydd yn sefyll gyda chi ac yn aros gyda chi am byth – sef yr Ysbryd ... Wna i ddim eich gadael chi ar eich pennau eich hunain.” Ioan 14:16,18
Dyna beth ydy addewid i chi!
Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma
Arfon Jones
Mae Byw y Beibl yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru
Share this: