Author: Bible Society, 11 April 2017
Be’ mae’r Beibl yn ei ddweud am…yr atgyfodiad
Uchafbwynt yr wythnos fawr yw Sul y Pasg, pan ddathlwn atgyfodiad Iesu o farw yn fyw.
Os nad ydych yn credu yn yr atgyfodiad gwagedd yw’r cwbl:
Ac os nad yw Crist wedi ei gyfodi, gwagedd yw’r hyn a bregethir gennym ni, a gwagedd hefyd yw eich ffydd chwi, ... Ond y gwir yw fod Crist wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, yn flaenffrwyth y rhai sydd wedi huno. 1 Corinthiaid 15: 14, 20
Profiad Mair oedd gweld fod y maen wedi’i dynnu oddi wrth y bedd:
Ar y dydd cyntaf o’r wythnos, yn fore, tra oedd hi eto’n dywyll, dyma Mair Magdalen yn dod at y bedd, ac yn gweld bod y maen wedi ei dynnu oddi wrth y bedd. Ioan 20: 1
Mae’r llais yn galw, ‘Mair’, ac mae hithau’n ei adnabod:
“Wraig,” meddai Iesu wrthi, “pam yr wyt ti’n wylo? Pwy yr wyt yn ei geisio?” Gan feddwl mai’r garddwr ydoedd, dywedodd hithau wrtho, “Os mai ti , syr, a’i cymerodd ef, dywed wrthyf lle y rhoddaist ef i orwedd, ac fe’i cymeraf fi ef i’m gofal.” Meddai Iesu wrthi, “Mair.” Troes hithau, ac meddai wrtho yn iaith yr Iddewon, “Rabbwni” (hynny yw, Athro). Ioan 20: 15–16
Ar doriad y bara mae’r ddau yn ei adnabod:
Wedi cymryd ei le wrth y bwrdd gyda hwy, cymerodd y bara a bendithio, a’i dorri a’i roi iddynt. Agorwyd eu llygaid hwy, ac adnabuasant ef. A diflannodd ef o’u golwg. Luc 24: 30–31
O Dduw Byw,
Moliannwn di am ryfeddod y Pasg,
dydd i ddathlu, rhyfeddu a diolch –
dydd sy’n newid ein ffordd o weithredu,
dydd sy’n newid ein ffordd o fyw,
dydd sy’n newid popeth.
Gorfoleddwn ym muddugoliaeth Iesu Grist. Amen.
Nick Fawcett
Bywha dy eglwys, O Arglwydd, â grym yr atgyfodiad:
adnewydda’i bywyd a grymusa’i chenhadaeth. Amen.
Elfed ap Nefydd Roberts
Bydded i’r Duw sy’n ysbryd nef a daear,
yr hwn na all angau mo’i orchfygu,
sy’n byw i’n cyffroi a’n hiacháu
ein bendithio â nerth i fynd allan
a chyhoeddi’r Efengyl. Amen.
Janet Morley
Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma
Aled Davies, Cyngor Ysgolion Sul
(Wedi’i addasu i’r we gan Christine Daniel)
Mae Byw y Beibl yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru
Share this: