Skip to main content

Sul y Blodau

Author: Bible Society, 4 April 2017

Ar ddechrau’r wythnos fawr, marchogodd Iesu i mewn i Jerwsalem gyda’i ddisgyblion i ddathlu gŵyl y Pasg. Byddai hon yn profi i fod yr wythnos fwyaf rhyfeddol yn hanes y byd.

Ar Sul y Blodau llwyddodd Iesu i argyhoeddi ei bobl nad oedd ef y Meseia yr oeddynt yn ei ddisgwyl. Dydi dynolryw erioed wedi gallu dygymod â gwyleidd-dra, ufudd-dod, troi’r foch arall a cherdded yr ail filltir. Mae’n amlwg ar Sul y Blodau fod y dorf wedi camddehongli a chamddeall holl arwyddocâd ac ystyr gweinidogaeth Iesu.

Wrth ddilyn Iesu i Jerwsalem mae geiriau Sechareia’r proffwyd yn dod i’r cof:

“Llawenha’n fawr, ferch Seion; bloeddia’n uchel, ferch Jerwsalem. Wele dy frenin yn dod atat â buddugoliaeth a gwaredigaeth, yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn, ar ebol, llwdn asen. Tyr ymaith y cerbyd o Effraim a’r meirch o Jerwsalem; a thorrir ymaith y bwa rhyfel. Bydd yn siarad heddwch â’r cenhedloedd; bydd ei lywodraeth o fôr i fôr, o’r Ewffrates hyd derfynau’r ddaear." Sechareia 9.9–10

Mae adlais o eiriau’r dorf i’w clywed yng ngeiriau’r Salmydd:

Bendigedig yw’r un sy’n dod yn enw’r ARGLWYDD. Bendithiwn chwi o dÿ’r ARGLWYDD. Salm 118. 26

Mae’r paratoad wedi’i wneud; mae’r orymdaith yn barod:

Daethant â’r ebol at Iesu a bwrw eu mentyll arno, ac eisteddodd yntau ar ei gefn.
Marc 11.7

Mae’n amlwg fod rhai o’r dyrfa wedi ei adnabod ond tybed a oeddynt wedi’i ddeall?

Ac yr oedd y rhai ar y blaen a’r rhai o’r tu ôl yn gweiddi:

Hosanna! Bendigedig yw’r un sy’n dod yn enw’r Arglwydd.” Marc 11.9

Ioan yn unig sy’n cyfeirio at y canghennau palmwydd:

Cymerasant ganghennau o’r palmwydd ac aethant allan i’w gyfarfod, gan weiddi:

Hosanna! Bendigedig yw’r un sy’n dod yn enw’r Arglwydd, yn Frenin Israel.” Ioan 12.13

Gweithred ddarluniadol yn null proffwydi’r Hen Destament yw’r digwyddiad hwn:

Cafodd Iesu hyd i asyn ifanc ac eistedd arno, fel y mae’n ysgrifenedig: “Paid ag ofni, ferch Seion; wele dy frenin yn dod, yn eistedd ar ebol asen.” Ioan 12.14–15

Gweddi

Bendigedig yw’r un sy’n dod yn enw’r Arglwydd. Hosanna yn y goruchaf! Ti a ddaeth gynt i’th ddinas yn ostyngedig, yn eistedd ar ebol asyn, tyrd i’n calonnau ninnau’n awr. Meddianna hwy a theyrnasa arnynt. Tyrd i’th etifeddiaeth trwy’r byd i gyd, a theyrnasa mewn heddwch a chyfiawnder, er mwyn i’r holl genhedloedd wybod mai ti yw Brenin y brenhinoedd ac Arglwydd yr arglwyddi.

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma


Aled Davies, Cyngor Ysgolion Sul
Mae Byw y Beibl  yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru

 


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible