Skip to main content

Roi

Author: Bible Society, 4 May 2017

Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am ROI?

Un o’r hanesion hyfrytaf yn yr Efengylau ydy’r hanes yna am Iesu yn gweld gwraig weddw dlawd yn cyfrannu arian i drysorfa’r deml (Marc 12.41-44).  Roedd llawer o bobl gyfoethog yn dod ac yn rhoi arian mawr, ond sylw Iesu oedd fod eu cyfraniadau yn ddim mwy na “newid mân” iddyn nhw.  Ond roedd y wraig weddw dlawd, ar y llaw arall, wedi rhoi’r cwbl oedd ganddi i fyw arno.

Mae’r Beibl yn awgrymu fod yna ddau berygl wrth roi: Y perygl cyntaf ydy rhoi i greu argraff ar bobl eraill.  “Byddwch yn ofalus i beidio gwneud sioe o’ch crefydd, er mwyn i bobl eraill eich gweld chi” meddai Iesu.

“Pan fyddi’n rhoi arian i’r tlodion, paid trefnu ffanffer er mwyn gwneud yn siŵr fod pawb yn gwybod am y peth ... Pan fyddi di’n rhoi arian i’r tlodion, paid gadael i’r llaw chwith wybod beth mae’r llaw dde yn ei wneud. Dylai pob rhodd fod yn gyfrinach. Bydd dy Dad, sy’n gweld pob cyfrinach, yn rhoi dy wobr i ti.” (Mathew 6.1-4)

Yr ail berygl ydy peidio bod yn hael wrth roi.  Yn ein cymdeithas ariangar ni mae yna demtasiwn i gyfiawnhau bod yn grintachlyd drwy resymu fod yna bobl eraill sydd â lot mwy o arian na ni.  Mae’r  Beibl bob amser yn ein hannog i fod yn hael.  Mae Duw yn hael, ac mae am i’w bobl fod yn hael.  Dyma mae’r Apostol Paul yn ei ddweud:

“Dylai pob un ohonoch chi roi o’i wirfodd, dim yn anfodlon neu am fod pwysau arnoch chi.  Mae Duw’n mwynhau gweld pobl sydd wrth eu boddau yn rhoi.” (2 Corinthiaid 9.7).

Mae’n son am eglwysi Macedonia yn helpu Cristnogion tlawd Jerwsalem, ac yn dweud,

“Buon nhw’n anhygoel o hael! Dw i’n dweud wrthoch chi eu bod nhw wedi rhoi cymaint ag oedden nhw’n gallu ei fforddio – do, a mwy!” (2 Corinthiaid 8.2-3).

Mae Duw yn gweld ein cymhellion ni wrth roi, neu beidio rhoi.  Mae rhoi yn weithred o addoliad, ac yn fynegiant o’n cariad ni at Dduw a’n ffydd ni yn Nuw.  Does dim rhaid i ni adeiladu ysguboriau i sicrhau fod “gen i ddigon i bara am flynyddoedd lawer” (Luc 12.19). Mae Duw eisiau i ni ei drystio fo.  Fel mae llyfr y Diarhebion yn dweud:

“Defnyddia dy gyfoeth i anrhydeddu’r Arglwydd; rho siâr cyntaf dy gnydau iddo fe. Wedyn bydd dy ysguboriau’n llawn...” (Diarhebion 3.9-10)

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma


Arfon Jones
Mae Byw y Beibl  yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible