Skip to main content

Nadolig

Author: Bible Society, 20 December 2017

“Roedd Duw eisiau siarad gyda phobl, ond roedd yn gwybod bod llawer yn cael trafferth deall pwy oedd o. Felly, ni wnaeth o eistedd yn ôl a chwyno am y peth, ond daeth i’r byd i ddatgelu ei hun i ni."

"Y Nadolig cyntaf oedd yr amser y tynnodd Duw’r llenni er mwyn i ni weld ei wyneb. Daeth y Duw anweledig yn weladwy. Pe bawn i wedi bod yn esgidiau Iesu, mi fyddai wedi bod yn demtasiwn rhoi tipyn o sioe a dangos fy mhwerau yn ddiddiwedd er mwyn denu edmygedd pobl. Ond daeth Iesu i’r byd yn faban diymadferth, mor ddibynnol ar ei fam ag oeddem ninnau unwaith ar ein mamau. Trwy fyw fel bod dynol, roedd Duw eisiau i ni weld sut yr edrychai a sut yr oedd yn ymddwyn, ond, yn bwysicaf oll, roedd am i ni wybod cymaint y mae yn ein caru.

Felly pwy yw’r Duw hwn? Mae gennym i gyd syniadau gwahanol o sut un yw Duw; mae llawer ohonom yn meddwl amdano fel hen ŵr llym, yn barod i bwyntio bys a dwrdio, neu fel y ‘Pensaer Mawr’ a osododd y byd ar fynd cyn eistedd yn ôl i edrych arnom o bell. Y Nadolig hwn, beth am edrych ymhellach na’r delweddau hyn a chanfod mwy am bwy yw Duw mewn gwirionedd a sut yn union y mae’n teimlo tuag atom ni?” J.John

Mae’r Logos (y Gair) wedi dod i breswylio i fyd pobl:

A daeth y Gair yn gnawd a phreswylio yn ein plith, yn llawn gras a gwirionedd; gwelsom ei ogoniant ef, ei ogoniant fel unig Fab yn dod oddi wrth y Tad. Ioan 1: 14

Cyhoeddi’r newyddion da oedd gwaith yr angel a dyna waith angylion Duw ym mhob oes:

Yna dywedodd yr angel wrthynt, “Peidiwch ag ofni, oherwydd wele, yr wyf yn cyhoeddi i chwi y newydd da am lawenydd mawr a ddaw i’r holl bobl: ganwyd i chwi heddiw yn nhref Dafydd, Waredwr, yr hwn yw’r Meseia, yr Arglwydd; a dyma’r arwydd i chwi: cewch hyd i’r un bach wedi ei rwymo mewn dillad baban ac yn gorwedd mewn preseb.” Luc 2: 10–12

Mae teip Herod Fawr yn amlygu ei hun ym mhob oes a chyfnod:

Wedi i Iesu gael ei eni ym Methlehem Jwdea yn nyddiau’r Brenin Herod, daeth seryddion o’r dwyrain i Jerwsalem a holi, “Ble mae’r hwn a anwyd yn frenin yr Iddewon? Oherwydd gwelsom ei seren ef ar ei chyfodiad, a daethom i’w addoli.” A phan glywodd y Brenin Herod hyn, cythruddwyd ef, a Jerwsalem i gyd gydag ef. Mathew 2: 1–3

Trwy’r distaw, y diymhongar, y llariaidd a’r gostyngedig y mae Duw yn gweithio. Ac meddai Mair:

“Y mae fy enaid yn mawrygu yr Arglwydd, a gorfoleddodd fy ysbryd yn Nuw, fy Ngwaredwr, am iddo ystyried distadledd ei lawforwyn.” Luc 1: 46–48(a)  

Datgelodd yr angel y newyddion da i wehilion y gymdeithas:

Wedi i’r angylion fynd ymaith oddi wrthynt i’r nef, dechreuodd y bugeiliaid ddweud wrth ei gilydd, “Gadewch inni fynd i Fethlehem a gweld yr hyn sydd wedi digwydd, y peth yr hysbysodd yr Arglwydd ni amdano.” Aethant ar frys, a chawsant hyd i Fair a Joseff, a’r baban yn gorwedd yn y preseb; ac wedi ei weld mynegasant yr hyn oedd wedi ei lefaru wrthynt am y plentyn hwn. Luc 2: 15–17

Dychwelyd ar hyd ffordd arall mae pawb sydd wedi dod wyneb yn wyneb â Mab Duw:

Yna, ar ôl cael eu rhybuddio mewn breuddwyd i beidio â dychwelyd at Herod, aethant yn ôl i’w gwlad ar hyd ffordd arall. Mathew 2:12

Pob Nadolig gweddïwn nad ydym yn anghofio gwir ystyr yr wyl:

Arglwydd Iesu, cofiwn dy eni ar y Nadolig cyntaf.
Cynorthwya ni i gofio nad oedd lle yn y llety, a chadw ni rhag llenwi’n bywyd fel na byddo lle i ti.
Cynorthwya ni i gofio’r stabl, a’r preseb yn grud, a chadw ni rhag chwennych y cyfoeth, y cysur a’r hawddfyd na chefaist ti mohonynt.
Cynorthwya ni i gofio dyfodiad y bugeiliaid a’r doethion a deled y syml a’r dysgedig, y mawr a’r bach yn un wrth dy addoli a’th garu di. Amen.

Ein Tad, wrth i ni gofio am y doethion yn dilyn y seren at y crud, gweddïwn am fedru cyflwyno i ti aur ein hufudd-dod, thus gwyleidd-dra, a myrr ein haddoliad, er anrhydedd a gogoniant i ti. Amen.

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma


Aled Davies
Mae Byw y Beibl  yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru

 


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible