Author: Bible Society, 1 August 2017
Weithiau fe glywch chi bobl yn dweud rhywbeth fel, “Dw i’n fodlon maddau, ond wna i byth anghofio.” Mae pobl yn aml yn gyndyn iawn i faddau y pethau lleia, ac yn lle hynny yn dewis pwdu a chwerwi. Ond mae’r Beibl yn dweud fod Duw bob amser yn barod i faddau i ni – felly, ddylen ni ddim gwneud yr un peth?
Gofynnodd Pedr i Iesu,
“Arglwydd, sawl gwaith ddylwn i faddau i frawd neu chwaer sy’n dal ati i bechu yn fy erbyn? Gymaint â saith gwaith?” Atebodd Iesu, “Na, wir i ti, dim saith gwaith, ond o leia saith deg saith gwaith! (Mathew 18.21).
Ystyr geiriau Iesu ydy fod yna ddim terfyn i faddeuant. Mae’n natur bechadurus ni eisiau dweud fod yna ben draw i ba sawl gwaith y dylai rhywun faddau i arall, ond mae’r Cristion yn cael ei alw i adlewyrchu parodrwydd Duw i faddau.
Yng Ngweddi’r Arglwydd cawn y geiriau “Maddau i ni ein dyledion fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr” (Mathew 6.12). ‘Troseddau’ ydy’r gair sy’n cael ei ddefnyddio yn y Beibl Cymraeg Newydd, ac mae’n cyfeirio at ein pechodau ni. Yr awgrym ydy y dylen ni fod yn barod i faddau i eraill cyn gofyn i Dduw faddau i ni. Ond dyma pam ddaeth Iesu i’r byd – i gynnig maddeuant Duw i ni. Fel Mab dibechod Duw roedd ganddo fo’r awdurdod i faddau. “Pwy ydy hwn yn meddwl y gall faddau pechodau?” (Luc 7.49) meddai rhai o’i wrthwynebwyr. Doedden nhw ddim wedi deall pwy oedd Iesu.
Roedd y proffwyd Jeremeia wedi sôn am y diwrnod y byddai hyn yn digwydd:
“Bydda i’n rhoi fy nghyfraith yn eu calonnau nhw, ac yn ei hysgrifennu ar eu meddyliau nhw... Byddan nhw i gyd yn fy nabod i ... am fy mod i’n maddau iddyn nhw am y pethau wnaethon nhw o’i le, ac yn anghofio’u pechodau am byth.” (Jeremeia 31.33-34)
Ia, anghofio! Dyma’r addewid i ni heddiw. Y cwbl mae’n ei ofyn gynnon ni ydy ar i ni gredu fod Iesu wedi talu’r pris ar y groes.
Mae geiriau’r Salmydd mor wir! –
“Rwyt ti, ARGLWYDD, yn dda ac yn maddau. Rwyt ti mor anhygoel o hael at y rhai sy’n galw arnat ti” (Salm 86:5).
“Mae’r un sydd wedi cael maddeuant am ei wrthryfel wedi’i fendithio’n fawr, mae ei bechodau wedi’u symud o’r golwg am byth.” (Salm 32:1)
Diolch iddo!
Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma
Arfon Jones
Mae Byw y Beibl yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru
Share this: