Author: Bible Society, 1 August 2017
Mae’r Beibl yn dysgu fod ieithoedd gwahanol yn rhan o fwriad Duw ar gyfer ei fyd. Creodd Duw fyd hardd, lliwgar o amrywiaeth rhyfeddol. A creodd bobl yn ddelw ohono’i hun. Roedd eu bywydau a’u perthynas â’i gilydd i adlewyrchu sut un oedd Duw, a rhoddodd y cyfrifoldeb iddyn nhw o ofalu am ei fyd (Genesis 1.26-27).
Un o orchmynion cyntaf Duw i bobl oedd “Llanwch y ddaear” (Genesis 1.28), ond yn Genesis 11 darllenwn amdanyn nhw’n penderfynu adeiladu dinas fawr iddyn nhw’u hunain, a byw gyda’i gilydd yn y ddinas honno. “Fydd dim rhaid i ni gael ein gwasgaru drwy’r byd i gyd” medden nhw. A beth oedd ymateb Duw i’r gwrthryfel yma? – “Mynd i lawr a chymysgu eu hiaith nhw, fel na fyddan nhw’n deall ei gilydd yn siarad.” Ia, sylwch, Duw wnaeth gymysgu eu hieithoedd nhw. Mae llawer o bobl wedi defnyddio hanes Tŵr Babel i ddadlau fod amrywiaeth ieithoedd yn felltith yn ein byd, ac mai cosbi’r ddynoliaeth oedd Duw drwy wneud hyn. Ond barnu ymgais wrthryfelgar i greu un diwylliant unffurf wnaeth Duw. Ei fwriad o’r dechrau cyntaf oedd i’r ddynoliaeth lenwi ei fyd, ac mae’n ymddangos fod amrywiaeth ieithoedd a diwylliannau yn rhan o’r bwriad hwnnw.
Yn Llyfr yr Actau, darllenwn am Dduw yn tywallt yr Ysbryd Glân ar ddydd y Pentecost,
“dyma pawb oedd yno yn cael eu llenwi â’r Ysbryd Glân ac yn dechrau siarad mewn ieithoedd eraill” (Actau 2.4).
Ymateb y dyrfa ryngwladol oedd yn Jerwsalem y diwrnod hwnnw oedd,
“Onid o Galilea mae’r bobl yma’n dod? ... Maen nhw’n siarad ein hieithoedd ni, ac yn dweud am y pethau rhyfeddol mae Duw wedi’i gwneud!” (Actau 2.7,11).
Roedd Duw yn dangos fod y neges am Iesu Grist yn newyddion da i bob cenedl iaith a diwylliant.
Yna yn Llyfr y Datguddiad cawn weledigaeth Ioan o’r Jerwsalem nefol, ac mae’n cynnwys amrywiaeth ryfeddol o ieithoedd a diwylliannau:
“Edrychais eto ac roedd tyrfa enfawr o bobl o mlaen i – tyrfa mor aruthrol fawr, doedd dim gobaith i neb hyd yn oed ddechrau eu cyfri! Roedden nhw’n dod o bob cenedl, llwyth, hil ac iaith...” (Datguddiad 7.9)
Yr Athro J.E.Daniel ddisgrifiodd y nefoedd fel y “Pentecost tragwyddol” – “...bydd Bernard yno yn canu ei "Jesu, dulcis memoria", a Luther ei "Ein feste Burg ist unser Gott", a Watts ei "When I survey the wondrous Cross" a Phantycelyn ei "Iesu, Iesu, ‘rwyt Ti’n ddigon" heb i Bernard anghofio ei Ladin, na Luther ei Almaeneg, na Watts ei Saesneg, na Phantycelyn ei Gymraeg, a heb i hynny rwystro mewn unrhyw fodd gynghanedd berffaith eu cyd-ddeall a’u cydganu.”
Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma
Arfon Jones
Mae Byw y Beibl yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru
Share this: