Author: Bible Society, 21 June 2017
Hunanreolaeth ydi ffrwyth olaf yn rhestr Paul yn ei lythyr at y Galatiaid. Tipyn o baradocs ydi hi: hunanreolaeth - ffrwyth yr Ysbryd Glân.
Ym mhennod pump o’i lythyr at y bobl oedd yn dilyn Iesu’r Meseia yng Ngalatea, roedd Paul yn egluro natur bywyd Cristnogol iddyn nhw. Nid bywyd o ddilyn rheolau ydi o nac chwaith o fyw dan reol ‘chwantau’r cnawd’ (Gal 5:16).
Mae pobl y Meseia Iesu wedi lladd y natur bechadurus gyda'i nwydau a'i chwantau drwy ei hoelio hi ar y groes. Felly os ydy'r Ysbryd wedi rhoi bywyd i ni rhaid i ni adael i'r Ysbryd ein harwain ni. (Gal 5.25-26, beibl.net).
Fe wnaeth Paul ddarganfod bod hunanreolaeth yn amhosib heb waith Duw yn ei fywyd. Dyma fo yn esbonio ei sefyllfa yn ei lythyr at y Rhufeiniaid:
Dŷn ni'n gwybod bod Cyfraith Duw yn dda ac yn ysbrydol. Fi ydy'r drwg! Fi sy'n gnawdol. Fi sydd wedi fy ngwerthu'n rhwym i bechod. Dw i ddim yn deall fy hun o gwbl. Yn lle gwneud beth dw i eisiau ei wneud, dw i'n cael fy hun yn gwneud beth dw i'n ei gasáu!......... Mae fel taswn i fy hun wedi colli rheolaeth, a'r pechod sydd y tu mewn i mi wedi cymryd drosodd……Dw i mewn picil go iawn! Oes yna ffordd allan? Pwy sy'n mynd i'm hachub i o ganlyniadau'r bywyd yma o bechu? Duw, diolch iddo! - o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia. (Rhuf 7:14-15, 17, 24-25, beibl.net).
Mae byw bywyd hollol gyfiawn yn amhosibl heb waith yr Iesu ar y Groes a gwaith yr Ysbryd Glân yn ein bywydau bob dydd. Mae’r Beibl yn dweud bod hunanddisgyblaeth, hunanreolaeth yn bosib trwy dyfiant ffrwyth yr Ysbryd Glân ynddon ni. Beth yw ein hateb ni'r wythnos yma?
Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma
Christine Daniel
Mae Byw y Beibl yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru
Share this: