Skip to main content

Gweddïo 1

Author: Bible Society, 3 November 2017

Mae’n ddiddorol gweld beth yn union mae’r Beibl yn ei ddweud am weddïo.

Mae ‘na gymaint, wrth gwrs: mae’r Beibl yn llawn enghreifftiau o bobl oedd yn gweddïo. Ond yn y gyfraith, doedd ‘na ddim llawer o orchmynion i weddïo. Dydy gweddïo ddim yn un o’r Deg Gorchymyn. Dydy’r gair ‘gweddïo’ ddim yn ymddangos yn llyfrau’r gyfraith. Pwyslais y llyfrau hynny oedd ufudd-dod:

‘caru’r Arglwydd eich duw, byw fel mae e eisiau i chi fyw ac aros yn ffyddlon iddo’ (Deut 11:22).

Mae’r Hen Destament yn rhagdybio bod gweddïo yn rhan o berthynas gyda Duw. Yr enghraifft cyntaf oedd Cain: fe wnaeth o gwyno i Dduw am ei gosb  (Genesis 4:13). Fe wnaeth Abraham weddïo dros Abimelech (Gen 20:17) a dyma Dduw yn iachau Abimelech. Gweddïodd gwas Abraham am arweiniad pan chwiliodd am wraig i Isaac (Gen 24:12) a gweddïodd Isaac dros Rebeca pan oedd hi’n methu cael plant (Gen 24:42). Fe wnaeth Daniel weddïo tair gwaith bob dydd (Dan 6:10) ac fe wnaeth criw llong Jona weddïo i’r Arglwydd yn y storm, er eu bod nhw ddim yn adnabod Duw cyn hynny (Jona 1:14).

Rydyn ni’n gweld Hanna’n gweddïo am fab (1 Sam 2) a Solomon yn gweddïo am ddoethineb (1 Bren 3). Roedd gweddi Dafydd yn weddi o addoliad: roedd o’n datgan addewid Duw a gofyn iddo fo gadw ei addewid (2 Sam 7:18-29). Roedd gweddi Nehemeia (Neh 1:5-11) yn weddi o faddeuant ac o hiraeth.

Mae’r Salmau yn llawn gweddïau: gweddi yn y bore, gweddi am help; gweddi am gyfiawnder, gweddi o ddiolch; cyffes a maddeuant, gweddi un sy’n dioddef – a mwy. Mae’n amlwg bod ‘na lawer mwy o enghreifftiau yn y Hen Destament. Tro nesaf fyddwn ni’n ystyried be’ mae’r Testament Newydd yn ei ddweud am weddïo.

Be’ fedrwn ni ddysgu am weddïo’r wythnos yma trwy ddarllen y Beibl?

  • Dysgwch o Dafydd neu Hanna: sut wnaethon nhw weddïo? Gweler 1 Sam 2: 1-10 neu 2 Sam 7:18-19. Oes ‘na rhywbeth rydych chi angen gan Dduw? Ydy cofio am ei addewidion yn help pan ‘dych chi’n gweddïo?
  • Gweddïwch Salm 27 fel gweddi eich hun

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma


Christine Daniel
Mae Byw y Beibl  yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible