Author: Bible Society, 17 October 2017
‘Bu farw Sara.. a buodd Abraham yn galaru ac yn wylo drosti’ Genesis 23:2
‘Felly dyma Joseff yn mynd i gladdu ei dad....dyma nhw’n cynnal cyfnod o alar angladdol. Buodd Joseff yn galaru yno am ei dad am wythnos’ Genesis 50:7-11
Ymateb naturiol ydy galar, i golled, i brofedigaeth, i siomedigaeth. Mae’r Beibl yn adrodd llawer o hanesion am bobl mewn galar. Fel pob emosiwn dynol a phob ymateb naturiol, mae’r Beibl yn dangos amrywiaeth eang o enghreifftiau o bobl sy’n galaru. Cofiwch am Hanna, yn galaru yn ei hiraeth am blentyn (1 Sam 1:16); neu’r Iddewon, oedd yn galaru mewn cyfnod o erledigaeth (Esther 4:3). Mi wnaeth Iesu alaru pan fu farw ei ffrind Lasarus (Ioan 11:34-36). Ac roedd y disgyblion yn galaru ar ôl y croeshoeliad: tan yr Arglwydd ailymddangos efo nhw wedi ei atgyfodi.
Mae’n bwysig cael cyfle i alaru ar ôl colled, neu pan mae pethau’n mynd yn ddrwg. Mae’r Salmau yn cynnig llawer o help i ni yn ein galar. Yn y Salmau mae galarnadau, a geiriau o alar, tristwch a hiraeth. Mae’r Salmyddion yn dangos dealltwriaeth ddofn o’r cyflwr o alaru: ac maen nhw’n rhoi tystiolaeth o Dduw sydd yn eu cyfarfod nhw yn eu gofid.
Ond dydy galar ddim yn ddiwedd y stori:
‘Mae’r rhai sy’n galaru wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n cael eu cysuro’. Mat 5:4
Mae Duw’r Beibl yn un sydd yn ein cysuro ni yng nghanol ein trafferthion. Mwy na hynny, mae’r Beibl yn dangos gweledigaeth o fyd heb boen, heb alar. Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion:
‘Byddwch chi’n galaru ac yn crio tra bydd y byd yn dathlu. Byddwch yn drist go iawn, ond bydd y tristwch yn troi’n llawenydd.’ Ioan 16:20
Mi wnaeth y proffwydi hefyd rannu gweledigaeth o ddiwedd poen a thristwch:
‘Bydda i’n troi eu galar yn llawenydd; Bydda i’n eu cysuro nhw, a rhoi hapusrwydd yn lle tristwch’ Jer 31:13
Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma
Christine Daniel
Mae Byw y Beibl yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru
Share this: